James Evans yn dweud na fydd yn sefyll i fod yn arweinydd newydd Reform yng Nghymru
Mae James Evans wedi dweud na fydd yn sefyll i fod yn arweinydd newydd Reform yng Nghymru.
Roedd yr Aelod o’r Senedd dros Frycheiniog a Sir Faesyfed wedi dweud yn flaenorol ei fod yn bwriadu camu i lawr o’r Senedd adeg yr etholiad nesaf.
"Ar ôl ystyried y mater yn ofalus, ac er fy mod wedi cael cefnogaeth ac anogaeth nifer sylweddol o Aelodau’r Senedd, rydw i wedi penderfynu na fyddaf yn rhoi fy enw ymlaen i fod yn arweinydd grŵp Reform UK yng Nghymru," meddai.
"Rwy’n credu bod perygl y byddai cystadleuaeth am yr arweinyddiaeth ar hyn o bryd yn creu rhaniadau diangen o fewn y grŵp, pan ddylem fod yn canolbwyntio ar weithio gyda’n gilydd a sicrhau canlyniadau i’r bobl a wnaeth ein hethol.
"Rydw i bob amser wedi rhoi fy nheulu yn gyntaf, ac yn y pen draw mae undod a llwyddiant y blaid yn golygu mwy i mi nag unrhyw uchelgais bersonol sydd gennyf.
"Rwy’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi fy annog ac wedi cynnig eu cefnogaeth."
Daw ei sylwadau wedi i Dan Thomas gamu i lawr fel arweinydd Reform yng Nghymru ar ôl iddo gael ei arestio.
Dywedodd Mr Thomas ei fod wedi bod yn destun adroddiad i'r heddlu dros y penwythnos a'i fod wedi cael ei ryddhau heb ei gyhuddo.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Gwent fod dyn 45 oed o ardal Aberbargoed wedi’i arestio ddydd Sul ar amheuaeth o ymosod ac ymddwyn mewn modd rheolaethol neu orfodol.
“Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau pellach barhau,” meddai llefarydd.
Roedd James Evans, a gafodd ei ethol ym mis Mai 2021 i gynrychioli y Blaid Geidwadol, yn cael ei ystyried yn un o'r ffefrynnau i'w olynu.
Yn ystod sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog ddydd Mawrth, Helen Jenner oedd wedi camu i'r bwlch yn absenoldeb Mr Thomas. Mae hi ymhlith y ffefrynnau yn ôl rhai i'w olynu.
Amserlen
Mae disgwyl i Reform ddewis arweinydd newydd yng Nghymru erbyn “diwedd y mis”, yn ôl prif chwip y blaid, Llŷr Powell.
Gwnaeth ei sylwadau wrth siarad ar bodlediad Senedd Sources nos Fawrth.
Roedd y sgwrs ar y podlediad wedi’i threfnu cyn y newyddion y byddai Dan Thomas yn camu i lawr fel arweinydd Reform yng Nghymru ar ôl iddo gael ei arestio.
Dywedodd Llŷr Powell y byddai “proses ffurfiol” i aelodau grŵp Reform yn y Senedd benderfynu pwy fydd yn arwain y grŵp nesaf, gan ychwanegu ei fod yn disgwyl i arweinydd newydd gael ei ddewis erbyn diwedd y mis.
Yn ei ddatganiad yn cyhoeddi ei fod yn gadael ei swydd, dywedodd Dan Thomas: “Gyda thristwch mawr, rwyf bellach yn camu i lawr o’r swydd hon am resymau personol.
“Hoffwn bwysleisio nad wyf wedi gwneud dim byd o’i le, ond nid wyf am i’r penawdau sydd i ddod dynnu sylw oddi ar y gwaith gwych y mae ein tîm yn y Senedd yn ei wneud wrth ddal y llywodraeth hon i gyfrif.
“Byddaf yn parhau i wasanaethu fy etholwyr yng Nghasnewydd Islwyn, ac yn cefnogi’n llawn pwy bynnag a ddewisir gan y grŵp fel ei arweinydd nesaf.”
Ychwanegodd ei bod wedi bod yn “anrhydedd fawr” iddo arwain Reform yng Nghymru.