Newyddion S4C

Apel am wybodaeth yn dilyn lladrad cerbydau a charafanau yn y gogledd

14/05/2021
Caernarfon

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl i nifer o garafanau a cherbydau gael eu dwyn yn ystod oriau mân ddydd Gwener.

Cafodd tri cherbyd yn cludo tair carafán eu hatal yng Nghaernarfon yn gynnar fore dydd Gwener.

Mae un dyn wedi cael ei arestio, tra bod dau arall wedi ffoi mewn cerbyd gwahanol. 

Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd â lluniau CCTV neu dashcam o'r A499 ac A487 rhwng hanner nos a 07:00 fore Gwener i gysylltu gyda nhw.

Image
Heddlu Gogledd Cymru

Dywedodd yr Arolygydd Trystan Bevan o Heddlu'r Gogledd: "Rydym yn parhau i geisio darganfod pwy yw perchnogion y carafanau sydd wedi'u dwyn.

"Da ni'n ymwybodol fod y digwyddiad yma yn rhan o weithred ar y cyd lle cafodd o leiaf chwech o garafanau o ogledd Cymru eu dwyn yn ystod y nos. 

"Mae ymchwiliadau ar hyn o bryd yn awgrymu fod hi'n drosedd a gafodd ei threfnu gan gang o bobl a wnaeth deithio yn benodol i'r ardal er mwyn dwyn carafanau. 

"Da ni'n gofyn i berchnogion carafanau a safleoedd gwersylla i adolygu eu trefniadau diogelwch yn sgil y troseddau yma.

"Rydym hefyd yn apelio ar unrhyw un sydd â lluniau fideo o ffyrdd yr A499 a'r A487 rhwng hanner nos a 07:00, fore Gwener i gysylltu â ni ar 101 gan nodi cyfeirnod Z066677."

Lluniau: Heddlu Gogledd Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.