Newyddion S4C

Ystyried mesurau i fynd i'r afael ag amrywiolyn India

Sky News 14/05/2021
Brechlyn i amddiffyn rhag Covid-19.

Mae achosion cynyddol o amrywiolyn India o Covid-19 wedi arwain at alwadau i ddosbarthu ail ddos brechlyn Covid-19 yn gynt mewn rhai ardaloedd o Loegr.

Daw hyn wrth i ddata ddangos fod achosion o'r amrywiolyn wedi mwy na dyblu mewn rhai ardaloedd o'r wlad yn ystod yr wythnos ddiwethaf, yn ôl Sky News.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried cyfres o fesurau, gan gynnwys lleihau'r bwlch rhwng dau ddos brechu.

Mae pwysau cynyddol ar weinidogion i gyflwyno brechiadau ar frys mewn rhai cymunedau sydd wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion.

Mae gweinidogion yn ystyried cynnig brechiadau i bobl ifanc dros 16 oed yn yr ardaloedd hynny sydd wedi eu heffeithio waethaf gan amrywiolyn India.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.