Newyddion S4C

Cymru i symud i lefel rhybudd dau

14/05/2021
Newyddion S4C

Fe fydd Mark Drakeford yn cyhoeddi diweddariad coronafeirws yng Nghymru mewn cynhadledd yn ddiweddarach ddydd Gwener. 

O ddydd Llun, Mai 17, bydd busnesau lletygarwch dan do yn cael ailagor, megis bwytai a thafarndai. Fe fydd lleoliadau adloniant dan do, megis sinemâu, neuaddau bingo a theatrau, hefyd yn cael ailagor.

Fe fydd hyd at 30 o bobl yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau dan do sydd wedi eu trefnu o flaen llaw, a hyd at 50 o bobol mewn gweithgareddau awyr agored. Mae hyn yn cynnwys derbyniadau priodas ac angladdau. 

Fe fydd atyniadau dan do yn ailagor, gan gynnwys amgueddfeydd ac orielau, a bydd modd ailagor llety gwyliau yn llawn. 

Mae disgwyl i'r Prif Weinidog hefyd gadarnhau y bydd teithio rhyngwladol yn ailddechrau o ddydd Llun. Dywed y bydd system oleuadau traffig yn cael ei chyflwyno yn debyg i'r un a fydd ar waith yn Lloegr a'r Alban, ond caiff mesurau diogelu ychwanegol eu rhoi mewn grym ar gyfer teithwyr sydd yn dychwelyd o rai gwledydd er mwyn atal risg lledaenu Covid-19 yng Nghymru. 

Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd cymorth ariannol ar gael i fusnesau sydd yn dal yn cael eu heffeithio gan gyfyngiadau'r coronafeirws, a bydd modd iddyn nhw hawlio hyd at £25,000 yn rhagor i helpu â chostau. 

Dyma fydd yr adolygiad cyntaf o'r rheoliadau iechyd cyhoeddus gan y llywodraeth ers Etholiad y Senedd ar 6 Mai. 

Ddydd Iau, fe gyhoeddodd Mr Drakeford ei dîm o weinidogion a dirprwy weinidogion, gan gynnwys Vaughan Gething yn cael ei benodi yn Weinidog yr Economi wedi pum mlynedd yn arwain yr adran Iechyd, ac Eluned Morgan yn cymryd lle Mr Gething fel Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Yn y cyfamser, cafodd Jeremy Miles ei benodi fel Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, a Julie James fel Gweinidog Newid Hinsawdd - rôl newydd sbon. 

Wrth gyhoeddi ei gabinet, fe ddywedodd Mr Drakeford: “Mae’r Cabinet newydd yn barod i ddechrau arni i arwain Cymru ar y daith tuag at adferiad wedi’r pandemig hir hwn, sydd wedi bwrw cysgod mor fawr ar ein bywydau ni i gyd.

“Bydd heriau o’n blaenau – mae’r pandemig yn argyfwng iechyd y cyhoedd ac yn argyfwng economaidd a fydd yn effeithio ar ein bywydau ymhell i’r dyfodol – ond mae’r tîm hwn yn un dawnus ac ymroddedig sy’n benderfynol o wneud gwahaniaeth cadarnhaol er lles Cymru".

Os bydd nifer yr achosion o Covid-19 yn parhau i ostwng yng Nghymru, bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf yn ystyried newidiadau pellach o ran cwrdd â phobl yn eu cartrefi, cynyddu'r nifer o bobl a all gwrdd yn yr awyr agored, a chaniatáu i ddigwyddiadau mwy cael eu cynnal dan do neu yn yr awyr agored.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.