Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma olwg ar rai o brif straeon y bore ar ddydd Mercher, 22 Rhagfyr.
Covid-19: Disgwyl cyhoeddiad am gyfyngiadau newydd wedi'r Nadolig
Mae disgwyl cyhoeddiad am ragor o fesurau posib mewn ymateb i ymlediad amrywiolyn Omicron pan fydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cynnal cynhadledd i'r wasg brynhawn dydd Mercher.
Mae Mr Drakeford eisoes wedi dweud fod rhagor o gyfyngiadau i’r sector lletygarwch yn bosib ar ôl y Nadolig, ond nid yw'r rhain wedi eu cyhoeddi eto.
Mae cadarnhad eisoes y bydd clybiau nos yn cau o 27 Rhagfyr ac y bydd digwyddiadau chwaraeon yn cael eu cynnal heb dorfeydd o 26 Rhagfyr.
Ymgyrchwyr yn herio ystrydebau am deganau plant
Mae’r Nadolig yn draddodiadol yn adeg o roi i eraill, gyda sach Siôn Corn bob amser yn llawn anrhegion i ddosbarthu ar hyd a lled Cymru a’r byd.
Ond mae grŵp o ymgyrchwyr yn galw ar gwmnïau i sicrhau bod teganau yn cael eu marchnata mewn ffordd sy’n gynhwysol o ran rhywedd.
Dywed Let Toys Be Toys fod y sefyllfa wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond bod mwy o waith eto i’w wneud.
Tensiynau Rwsia-Wcrain: Putin yn bygwth 'ymateb milwrol-technegol' - Sky News
Mae Arlywydd Rwsia wedi bygwth "ymateb milwrol-technegol" os fydd gwledydd gorllewinol yn parhau â'r hyn mae'n ei alw'n weithredoedd "anghyfeillgar" dros Wcrain.
Wrth siarad â swyddogion milwrol, dywedodd Vladimir Putin nad oedd modd camu yn ôl yn yr anghydfod dros y cyn-dalaith Sofietaidd.
Roedd Arlywydd Rwsia hefyd yn galw am sicrwydd gan yr UDA a'i chynghreiriaid na fydd NATO yn paratoi i ehangu eu presenoldeb yn yr ardal.
Trafnidiaeth Cymru yn dechrau ar amserlen dros-dro yn sgil Omicron
Fe fydd gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan amserlen newydd ar y rheilffyrdd o ddydd Mercher.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi'r amserlen reilffordd frys er mwyn paratoi am gynnydd disgwyliedig yn y prinder staff yn sgil amrywiolyn Omicron o Covid-19.
Dywed Trafnidiaeth Cymru a Network Rail eu bod wedi gweld "cynnydd sylweddol" yn absenoldebau staff ers dechrau mis Rhagfyr a bod hyn eisoes wedi dechrau effeithio ar wasanaethau rheilffyrdd.
Adeiladu theatrau llawdriniaethau newydd mewn ysbyty i fynd i’r afael â rhestrau aros
Mae'r gwaith wedi dechrau ar adeiladu dwy theatr llawdriniaethau newydd yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli i fynd i’r afael â rhestrau aros a cheisio lleddfu’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd ar draws y rhanbarth.
Bydd y theatrau llawdriniaethau newydd yn cynnwys ystafelloedd paratoi, ystafelloedd anesthetig, cyfleusterau newid ac ardal adfer.
Bydd gan y theatrau’r capasiti i gynnal 24 sesiwn yr wythnos, yn ymdrin â llawdriniaethau yn amrywio o lawdriniaethau orthopedig, wroleg a chyffredinol i therapi fasgwlaidd a laser.
Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.