Covid-19: Disgwyl cyhoeddiad am gyfyngiadau newydd wedi'r Nadolig
Mae disgwyl cyhoeddiad am ragor o fesurau posib mewn ymateb i ymlediad amrywiolyn Omicron pan fydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cynnal cynhadledd i'r wasg brynhawn dydd Mercher.
Mae Mr Drakeford eisoes wedi dweud fod rhagor o gyfyngiadau i’r sector lletygarwch yn bosib ar ôl y Nadolig, ond nid yw'r rhain wedi eu cyhoeddi eto.
Ddydd Gwener cadarnhawyd y bydd clybiau nos yn cau o ddydd Llun, 27 Rhagfyr, tra bod rhagor o fesurau yn cael eu cyflwyno i fusnesau, megis y rheol dwy fetr a systemau unffordd.
Bydd digwyddiadau chwaraeon yn cael eu cynnal heb dorfeydd o 26 Rhagfyr hefyd – penderfyniad sydd wedi cael ei ddisgrifio fel un “siomedig” gan rai yn y byd chwaraeon.
Yn y cyfamser, bydd aelodau Senedd Cymru yn cwrdd ddydd Mercher ar ôl cael eu galw’n ôl o’u gwyliau i ymateb i ddatganiad gan un o weinidogion Llywodraeth Cymru.
Fe gyhoeddodd y Llywydd Elin Jones brynhawn dydd Mawrth y byddai aelodau’n cael eu galw’n ôl er mwyn i’r Senedd "ystyried mater o bwys cyhoeddus brys".
Bydd aelodau'n ymgynnull ar gyfer cyfarfod dros y we er mwyn clywed datganiad gweinidogol am 13:30 ddydd Mercher, meddai.
Cafodd y cais ei wneud ddydd Mawrth gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig i alw aelodau’r Senedd yn ôl, a hynny er mwyn craffu ar gyfyngiadau coronafeirws Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Andrew RT Davies mewn llythyr at Elin Jones fod angen i'r aelodau bleidleisio ar unrhyw benderfyniadau sydd yn cael eu gwneud am gyfyngiadau pellach gan weinidogion y llywodraeth.
Mae'r aelodau wedi gorffen eu gwaith Seneddol dros gyfnod y Nadolig a'r disgwyl oedd y bydden nhw yn ail-gydio yn eu dyletswyddau ar 10 Ionawr.
Dilynwch y diweddaraf o gynhadledd i’r wasg Llywodraeth Cymru o 12:15 ddydd Mercher ar wasanaeth Newyddion S4C.