Newyddion S4C

Ymgyrchwyr yn herio ystrydebau am deganau plant

22/12/2021

Ymgyrchwyr yn herio ystrydebau am deganau plant

Mae’r Nadolig yn draddodiadol yn adeg o roi i eraill, gyda sach Siôn Corn bob amser yn llawn anrhegion i ddosbarthu ar hyd a lled Cymru a’r byd.

Ond mae grŵp o ymgyrchwyr yn galw ar gwmnïau i sicrhau bod teganau yn cael eu marchnata mewn ffordd sy’n gynhwysol o ran rhywedd.

Dywed Let Toys Be Toys fod y sefyllfa wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond bod mwy o waith eto i’w wneud.

Yn ôl Jess Day, mae’r ymgyrch wedi cyflawni tipyn o newid yn barod ond does dim digon wedi bod hyd yma.

“Ein gofyniad gwreiddiol oedd tynnu arwyddion i lawr felly pan lansiwyd ein hymgyrch, a dyna oedd y sbardun ar gyfer yr ymgyrch, oedd gweld arwyddion yn dweud ‘Teganau Bechgyn’ a ‘Teganau Merched’ dros ben silffoedd o deganau,” meddai.

“Ac mae plant yn gallu darllen, mae'r rheiny’n eiriau y byddan nhw’n deall yn gymharol ifanc. 

“Yn ogystal ag arwain siopwyr i brynu ar ran plant, rydych chi’n dweud wrth y plant eu hunain fod hwn i chi, ac nad yw hwn i chi ac yn wreiddiol ein gofyniad oedd tynnu’r arwyddion hynny oherwydd mae hynny’n newid eithaf hawdd i’w wneud.”

Image
Awena Walkden + teulu Si-lwli
Mae Awena Walkden yn berchen ar gwmni teganau Si-lwli ar Ynys Môn.  Llun: Awena Walkden

‘Un o’r prif sgyrsiau’

Mae Awena Walkden yn berchen ar gwmni teganau ar Ynys Môn.

Dywedodd Awena wrth Newyddion S4C bod sicrhau teganau sy’n gynhwysol o ran rhywedd wedi bod yn flaenoriaeth i Si-lwli ym Mhorthaethwy ers y dechrau.

“I fod yn onest, mae hynna’n rhywbeth dwi ‘di bod yn ymwybodol cyn i ni ddechrau creu y teganau mewn ffordd, a hyd yn oed cyn lansio’n tegan gynta’ ni, y seren swynol.

“O’dd hwnna’n un o’r prif sgyrsiau a oeddan ni isho creu tegan oedd yn apelio’n gyfartal i hogyn neu hogan,” dywedodd.

“Mi ddaru ni ddod ar draws dipyn bach o...ddim trwbwl, ond efo Draigi achos bod o’n ddraig ag achos ella bod rhai rhieni’n meddwl am ddraig sy’n fwy addas i hogyn, gafon ni dipyn o rieni a neiniau a teidiau’n dweud ‘O dwi’m yn gwybod i gael y ddraig i’r ferch neu i’r wyres achos mae’r ddraig i hogyn dydy?’ ac o’n i ‘tha ‘Ymm, ydy o? Na, dwi’m yn meddwl’.”

Image
Cari - Awena Walkden Si-lwli
Cari, merch Awena, gyda Draigi un o gynhyrchion Si-lwli.  Llun: Awena Walkden

Mae ymchwil diweddar gan Let Toys Be Toys yn dangos fod 49% o hysbysebion teganau oedd yn cynnwys plant yn yr hysbyseb yn cynnwys bechgyn a merched yn chwarae gyda’i gilydd, sy’n gynnydd o 36% ers 2015.

Mae’r grŵp yn galw ar gwmnïau i hysbysebu gan gynyddu cynrychiolaeth o ryweddau gwahanol ac i ddefnyddio lliwiau heb ystrydebau yn y cynnwys.

Meddai Jess Day: “Yr holl stori ni wedi gweld yw ei bod hi’n llawer mwy derbyniol yn gymdeithasol i ferch chwarae gyda phethau sydd wedi eu cysylltu â bechgyn nag yw hi i fechgyn fod wedi eu cysylltu gydag unrhyw beth benywaidd, ac wrth gwrs beth mae hynny’n dweud wrth blant am yr hyn rydyn ni’n meddwl am ferched a menywod?”

Sefyllfa yn 'gwella'

Ym mis Hydref eleni, cyhoeddodd cwmni Lego ymgyrch newydd oedd yn galw ar rieni a phlant i gefnogi chwarae cynhwysol.

Daw hynny yn dilyn ymchwil a gomisiynwyd gan y cwmni oedd yn dangos bod 71% o fechgyn a 42% o ferched yn dweud eu bod yn ofni y byddan nhw’n cael eu dychanu os ydyn nhw’n chwarae gyda thegan sy’n draddodiadol wedi ei gysylltu â rhywedd arall.

Ond yn ôl Jess, mae’r sefyllfa wedi gwella ers adroddiad diwethaf Let Toys Be Toys yn 2015.

Image
Jess Day Let Toys Be Toys
Dywed Jess Day o Let Toys Be Toys fod y sefyllfa wedi gwella ond bod mwy o waith i'w wneud.

“Dwi’n meddwl bod Lego’n cymryd y cam cyntaf hwnnw yn mynd i fod yn ddylanwadol iawn,” meddai Jess.

“Nhw yw’r cwmni teganau mwyaf yn y byd ac os maen nhw’n dod allan a dweud eu bod yn credu y dylai pethau fod yn wahanol, dwi’n meddwl y bydd e’n agor lle ar gyfer eraill i wneud hynny.”

Mae Awena hefyd yn obeithiol y bydd pethau’n gwella yn y dyfodol.

“Cyn belled a fedra i weld ac yn enwedig gyda’r stwff ma’r plant...syniade ma’ nhw’n dod adra hefo o’r ysgol, ma’ ‘na dal lot o waith i ‘neud,” meddai.

“A ma’ dal yn rhywbeth yn amlwg sy’n poeni rhieni a plant a dwi jyst yn gobeithio os ‘dach chi’n gofyn yr un cwestiwn i fi mewn pum mlynedd arall bod yr ateb yn mynd i fod dipyn bach yn wahanol”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.