Tensiynau Rwsia-Wcrain: Putin yn bygwth 'ymateb milwrol-technegol'
Mae Arlywydd Rwsia wedi bygwth "ymateb milwrol-technegol" os fydd gwledydd gorllewinol yn parhau â'r hyn mae'n ei alw'n weithredoedd "anghyfeillgar" dros Wcrain.
Wrth siarad â swyddogion milwrol, dywedodd Vladimir Putin nad oedd modd camu yn ôl yn yr anghydfod dros y cyn-dalaith Sofietaidd.
Roedd Arlywydd Rwsia hefyd yn galw am sicrwydd gan yr UDA a'i chynghreiriaid na fydd NATO yn paratoi i ehangu eu presenoldeb yn yr ardal.
Mae Mr Putin yn rhoi'r bai ar y gorllewin am "densiynau sy'n cynyddu yn Ewrop", yn ôl Sky News.
Mae pryderon cynyddol bod Rwsia yn paratoi i ymosod ar Wcrain gyda miloedd o filwyr yn ymgynnull yn agos i'r ffin, ond mae Rwsia yn gwadu hyn.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Fforwm Economaidd y Byd