Trafnidiaeth Cymru yn dechrau ar amserlen dros-dro yn sgil Omicron
Fe fydd gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan amserlen newydd ar y rheilffyrdd o ddydd Mercher.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi'r amserlen reilffordd frys er mwyn paratoi am gynnydd disgwyliedig yn y prinder staff yn sgil amrywiolyn Omicron o Covid-19.
Dywed Trafnidiaeth Cymru a Network Rail eu bod wedi gweld "cynnydd sylweddol" yn absenoldebau staff ers dechrau mis Rhagfyr a bod hyn eisoes wedi dechrau effeithio ar wasanaethau rheilffyrdd.
Mae disgwyl y bydd absenoldebau'n parhau i gynyddu dros yr wythnosau nesaf, gyda'r amserlen newydd yn golygu gostyngiad mewn gwasanaethau dros gyfnod y Nadolig.
Yn ôl Trafnidiaeth Cymru, bydd hyn rhwng 10-15% o'r amserlen arferol ond y bydd lefel y gwasanaethau yn uwch o'i gymharu â dechrau'r pandemig yn 2020.
Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru: “Mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i redeg gwasanaethau mor ddibynadwy â phosibl i'n cwsmeriaid ac felly rydym yn cyflwyno amserlen newydd o ddydd Mercher 22 Rhagfyr, gan leihau'r risg o orfod canslo gwasanaethau ar fyr rybudd.
“Lle bynnag y gallwn ni, byddwn yn defnyddio unrhyw gerbydau ychwanegol sydd ar gael oherwydd yr amserlen lai i redeg trenau hirach nag arfer, i gynorthwyo gyda phellter cymdeithasol a darparu trafnidiaeth ar y ffordd ychwanegol, lle bynnag bo hynny'n bosibl.”
“Rydym yn gwerthfawrogi y bydd hyn yn rhwystredig i rai cwsmeriaid, ac nid ydym wedi gwneud y penderfyniad hwn ar chwarae bach. Gofynnwn i bob cwsmer wirio ar-lein cyn teithio a dilyn pob cyngor gan Lywodraeth Cymru."
Bydd yr amserlen newydd yn parhau am yr wythnosau nesaf ac yn cael ei adolygu'n rheolaidd i fesur effaith Omicron ar absenoldebau staff.
Llun: Trafnidiaeth Cymru