Newyddion S4C

Adeiladu theatrau llawdriniaethau newydd mewn ysbyty i fynd i’r afael â rhestrau aros

22/12/2021
Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli

Mae'r gwaith wedi dechrau ar adeiladu dwy theatr llawdriniaethau newydd yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli i fynd i’r afael â rhestrau aros a cheisio lleddfu’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd ar draws y rhanbarth.

Bydd y theatrau llawdriniaethau newydd yn cynnwys ystafelloedd paratoi, ystafelloedd anesthetig, cyfleusterau newid ac ardal adfer.

Bydd gan y theatrau’r capasiti i gynnal 24 sesiwn yr wythnos, yn ymdrin â llawdriniaethau yn amrywio o lawdriniaethau orthopedig, wroleg a chyffredinol i therapi fasgwlaidd a laser.

Mae disgwyl i’r cyfleusterau newydd gyflawni oddeutu 4,600 yn ychwanegol o lawdriniaethau dydd y flwyddyn.

Effaith y pandemig

Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu ymdrechion i fynd i’r afael â’r ôl-groniad o bobl sy’n aros am lawdriniaeth yn yr ardal ar ôl oedi achoswyd gan effaith y pandemig ar ofal wedi’i gynllunio.

Yn ogystal â bod o fudd i gleifion yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro sy’n aros am lawdriniaeth, mae disgwyl hefyd y bydd cleifion ar draws rhanbarth ehangach de-orllewin Cymru yn cael budd o’r capasiti ychwanegol medd y bwrdd iechyd lleol.

Fel rhan o’r gwaith cynllunio ar gyfer yr uned newydd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal ymgyrch wedi’i thargedu i recriwtio staff cymorth, staff theatr a staff clinigol ychwanegol.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: “Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i fuddsoddi yn seilwaith y GIG yng Nghymru, i sicrhau ei fod yn ddigon cydnerth a bod ganddo’r capasiti i ofalu am bobl pan fydd ei angen arnyn nhw.

“Yn ddiweddar, fe wnaethon ni gyhoeddi buddsoddiad o fwy na £170 miliwn mewn gofal wedi’i gynllunio a herio byrddau iechyd i ddatblygu cynlluniau o ran sut y gallan nhw drawsnewid sut y mae eu gwasanaethau yn cael eu darparu a gwneud y defnydd gorau o’r cyllid sydd ar gael."

Ychwanegodd cyfarwyddwr gweithredol datblygu strategol a chynllunio weithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Lee Davies: “Mae datblygu capasiti theatr ychwanegol yn garreg filltir bwysig yn ein gwaith o gynllunio tuag at adferiad yn dilyn COVID-19, ac rydym yn falch iawn o dderbyn y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r prosiect."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.