Newyddion S4C

Cip olwg ar benawdau'r bore

16/12/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma olwg ar rai o brif straeon y gwasanaeth ar fore Iau, 16 Rhagfyr.

'Angen newid sylweddol' i'r sector gofal yng Nghymru i sicrhau safonau derbyniol

Mae Cadeirydd Fforwm Gofal Cymru yn dweud bod angen ‘newidiadau sylweddol' i’r sector gofal yng Nghymru. Yn ôl Mario Kreft mae’r sector yn wynebu heriau aruthrol gan gynnwys prinder o hyd at 10,000 o ofalwyr.

Ffrainc yn gwahardd teithwyr o'r DU yn sgil pryderon am Omicron

Mae Llywodraeth Ffrainc wedi gwahardd teithwyr o'r Deyrnas Unedig yn sgil pryderon dros ledaeniad yr amrywiolyn Omicron. O ddydd Sadwrn ymlaen bydd teithio rhwng y DU a Ffrainc yn cael ei wahardd heblaw am "resymau cymhellol". 

Miloedd ddim yn defnyddio ap y GIG i ‘pingio’ cysylltiadau Covid agos

Dyw cannoedd ar filoedd o bobl sydd wedi profi’n bositif am Covid-19 ddim yn defnyddio apiau olrhain y GIG i hysbysebu eraill, yn ôl ffigyrau newydd. Yng Nghymru a Lloegr, mae’n cael ei amcangyfrif mai dim ond hanner y bobl sydd gan yr ap sy’n ei ddefnyddio pan fod angen.

Aelodau YesCymru yn pleidleisio o blaid cyfansoddiad newydd i'r mudiad

Mae aelodau YesCymru wedi pleidleisio o blaid newidiadau i'r mudiad, gan gynnwys cyfansoddiad newydd i'r grŵp ymgyrchu. Daw'r bleidlais ar ôl cyfnod o ffraeo ymysg y mudiad annibyniaeth a wnaeth arwain at ymddiswyddiad y Pwyllgor Canolog ym mis Awst eleni. 

‘Roeddwn yn brwydro am fy mywyd’: Rhybudd merch ifanc am effeithiau Covid-19

Mae merch ifanc dreuliodd cyfnod mewn Uned Dibyniaeth Uchel yn yr ysbyty, yn rhybuddio eraill am effeithiau Covid-19 ar blant. Treuliodd Maisy Evans o Gasnewydd dros wythnos yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, Cwmbran ym mis Awst, pan yn 17 oed, gyda Covid-19.

Ehangu gwasanaethau mewn fferyllfeydd yng Nghymru

Bydd gwasanaethau sydd ar gael mewn fferyllfeydd yng Nghymru yn ehangu fel bod modd i gleifion gael mynediad i wasanaethau’r GIG yn gyfleus ac yn agosach i’w cartrefi. Mae’r cytundeb newydd yn cynnwys sefydlu gwasanaeth fferylliaeth sy’n rhoi presgripsiynau ledled Cymru.

Max Verstappen: ‘Ddim yn poeni os y gwnawn nhw geisio cymryd fy nheitl F1’

Mae Max Verstappen wedi dweud ei fod yn teimlo fel pencampwr y byd Formula One ac nad yw’n poeni os bydd ei wrthwynebwyr yn ceisio cymryd ei deitl oddi wrtho. Fe gipiodd Verstappen y teitl ar lap olaf y Grand Prix yn Abu Dhabi, ar ôl iddo lwyddo i osod ei hun tu ôl i Lewis Hamilton wedi i’r car diogelwch ddod i’r trac. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.