Newyddion S4C

‘Roeddwn yn brwydro am fy mywyd’: Rhybudd merch ifanc am effeithiau Covid-19

Newyddion S4C 15/12/2021

‘Roeddwn yn brwydro am fy mywyd’: Rhybudd merch ifanc am effeithiau Covid-19

Mae merch ifanc dreuliodd cyfnod mewn Uned Dibyniaeth Uchel yn yr ysbyty, yn rhybuddio eraill am effeithiau Covid-19 ar blant.

Treuliodd Maisy Evans o Gasnewydd dros wythnos yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, Cwmbran ym mis Awst, pan yn 17 oed, gyda Covid-19.

"Roeddwn i'n ymladd am fy mywyd yn yr ysbyty. Roedd e'n really scary. Roedd clot ar fy ysgyfaint dde a lot o pneumonia wedi achosi gan covid. 

“Rodd inflammation, scar tissue, fluid, popeth yn bod arno fe. Roedd y sgans yn edrych yn warthus. Ro'n i'n edrych fel rhywun 80 oed oedd yn smygu 20 y dydd."

'Pawb yn medru bod yn sâl iawn'

Yn ôl y ffigyrau, gafodd eu darparu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, cafodd 611 o bobl dan 20 oed yng Nghymru eu hanfon i ysbyty gyda Covid-19 rhwng dechrau Ionawr a diwedd Tachwedd eleni.

Pan ofynnwyd faint o'r rheiny oedd yn yr ysbyty oherwydd y feirws yn benodol, dywedwyd nad oedd y ffigyrau ar gael.
 
Mae’r ffigyrau yn awgrymu bod 0.74% o blant oed 0-9 a 0.35% o blant rhwng 10-19 oedd wedi  eu heintio gyda Covid-19 rhwng dechrau Ebrill a diwedd Tachwedd eleni wedi derbyn triniaeth ysbyty, o'i gymharu â 2.6% o oedolion dros 20 oed.

Mae dau berson ifanc dan 14 oed wedi marw gyda Covid-19 yng Nghymru, y ddau achos ym mis Medi.

Dywedodd llefarydd ar ran BMA Cymru, Dr Phil White "Nid pobl mewn oed yn unig mae Covid yn effeithio, mae pawb yn medru cael eu heffeithio gan y salwch yma, mae pawb yn medru bod yn sâl iawn efo fo ac mi fydd yna ganran o'r to ifanc hefyd sydd yn cael eu trosglwyddo i ysbytai. 

“Mae'r rhain yn aml iawn yn sâl iawn. Ddylen nhw ddim meddwl am fod nhw'n bobl ifanc bydd o ddim yn effeithio arnyn nhw."

‘Fi dal yn wan’

Yn ôl Ms Evans, mae hi dal i deimlo effaith y salwch dri mis yn ddiweddarach. 
 
"Roeddwn i'n wan am sawl wythnos. Fi dal yn wan nawr. Rhai diwrnodau, fi'n deffro a fi'n teimlo'n flinedig, mewn poen, ddim am wneud dim byd heblaw cysgu.
 
"Mae'n broses araf, a dydyn nhw ddim yn gwybod beth fydd yr effeithiau hirdymor. Dy'n nhw ddim yn siŵr sut bydd y scar tissue yn ymdopi, sut bydd fy ysgyfaint yn y dyfodol. Maen nhw'n poeni hefyd am yr effaith ar organau fel fy ymennydd a fy nghalon - dwi'n trafod hynny nawr. Mae'n rili ofnus ond dyna'r realiti. 

“Mae Covid yn rhywbeth i boeni amdano. Yn bendant."

Image
S4C
Maisy Evans

Yn dilyn ei phrofiad, mae Ms Evans yn galw ar bobl ifanc i gael brechlynnau Covid-19.

"Fi'n credu oedd fy mhrofiad i yn agoriad llygad i bobl sy'n fy adnabod. Rwy'i am atgoffa pobl fod Covid ddim yn jôc.

“Roeddwn i'n 17, yn eithaf ffit ac yn byw bywyd gweddol iach - ac roeddwn i yn yr ysbyty yn brwydro am fy mywyd."

Ond mae ffigyrau swyddogol yn dangos mai dim ond 3% o blant 12-15 oed sydd wedi cael dau ddos o frechlyn Covid-10. Mae dros 80% o'r rheiny rhwng 65-69 oed wedi derbyn tri dos o’r brechiad. 

Yn ôl llywodraeth Cymru "Rydyn ni’n dal i aros am gyngor y cydbwyllgor ar imiwneiddio a brechu ar gynnig pigiad i blant dan ddeuddeg oed ac mae dau ddos yn cael ei gynnig i blant 12-15 oed ar hyn o bryd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.