Newyddion S4C

Miloedd ddim yn defnyddio ap y GIG i ‘pingio’ cysylltiadau Covid agos

Sky News 16/12/2021
Ap NHS GIG Covid-19

Dyw cannoedd ar filoedd o bobl sydd wedi profi’n bositif am Covid-19 ddim yn defnyddio apiau olrhain y GIG i hysbysebu eraill, yn ôl ffigyrau newydd.

Yng Nghymru a Lloegr, mae’n cael ei amcangyfrif mai dim ond hanner y bobl sydd gan yr ap sy’n ei ddefnyddio pan fod angen.

Yn yr Alban ac mae’r ffigwr yn llai fyth gyda 20% o’r rhai sydd wedi lawrlwytho’r ap yn ei ddefnyddio.

Dywed Sky News fod apiau olrhain cyswllt y GIG wedi bod yn elfen hanfodol o ymateb y llywodraeth i’r pandemig.

Pan mae pobl yn profi’n bositif gyda phrawf PCR, maent yn gallu defnyddio’r ap i hysbysebu defnyddwyr eraill eu bod wedi bod mewn cyswllt agos gyda pherson sydd bellach wedi profi’n bositif.

'Pingdemic'

Cyrhaeddodd y ffigyrau uchafbwynt yn ystod y cyfnod a elwir y “pingdemic” yng Ngorffennaf, gyda dros 600,000 o hysbysebion yn cael eu hanfon mewn wythnos yn unig.

Dywed Sky News fod o gwmpas 300,000 o bobl yn profi’n bositif am Covid-19 yng Nghymru a Lloegr bob wythnos – ac felly fod disgwyl i oddeutu 150,000 o bobl i yrru ‘pings’ i gysylltiadau agos.

Mewn gwirionedd, o gwmpas hanner o hynny sy’n defnyddio’r ap.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.