Max Verstappen: ‘Ddim yn poeni os y gwnawn nhw geisio cymryd fy nheitl F1’
Mae Max Verstappen wedi dweud ei fod yn teimlo fel pencampwr y byd Formula One ac nad yw’n poeni os bydd ei wrthwynebwyr yn ceisio cymryd ei deitl oddi wrtho.
Fe gipiodd Verstappen o’r Iseldiroedd y teitl ar lap olaf y Grand Prix yn Abu Dhabi, ar ôl iddo lwyddo i osod ei hun tu ôl i Lewis Hamilton wedi i’r car diogelwch ddod i’r trac.
Gwrthodwyd protest Mercedes, tîm Lewis Hamilton, yn erbyn y canlyniad nos Sul a chadarnhawyd Verstappen yn bencampwr.
Mae Mercedes wedi dweud eu bod yn bwriadu apelio’r penderfyniad, gyda’r amser cau i wneud hynny nos Iau.
Thanks for stopping by champion! 🏆 #SimplyLovely pic.twitter.com/MQmm4gnqt2
— Red Bull Racing Honda (@redbullracing) December 15, 2021
Pan ofynnwyd i Verstappen sut oedd yn teimlo ymhlith yr holl ansicrwydd, dywedodd “nad oedd yn meddwl amdan yr holl beth gymaint â hynny”.
“Oherwydd rwy’n teimlo fel pencampwr y byd, does dim ots be fydden nhw’n drio ei wneud.
“Fe enillon e ar y trac, pan roedd golau gwyrdd, ac fe wnaethon ni basio nhw ar y trac, a ni fydden nhw byth yn gallu cymryd hynny i ffwrdd.”
Ychwanegodd y byddai apêl i’r penderfyniad gan Mercedes yn “annymunol”.
Darllenwch y stori’n llawn yma.