Cyn-gyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Glan-llyn Huw Antur wedi marw yn 63 oed

Huw Antur

Mae cyn-gyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Glan-llyn Huw Antur wedi marw yn 63 oed. 

Roedd Huw Antur yn byw yn Llanuwchllyn ac yn gyfarwyddwr Gwersyll Glan-llyn rhwng 2007 a 2023.

Cyn hynny, roedd yn gweithio i Gyngor Gwynedd fel Swyddog Adfywio Bro Meirionnydd Wledig.

Bu hefyd yn y gorffennol yn gweithio i Gymdeithas Meirion ac i Amaethwyr Clunderwen a Cheredigion Cyf.

Mewn teyrnged, dywedodd Urdd Gobaith Cymru: "Gyda thristwch mawr mae’r Urdd yn talu teyrnged i Huw Antur, a fu’n gyfarwyddwr ar Wersyll yr Urdd Glan-llyn am 16 mlynedd.

"Roedd Huw yn ŵr bonheddig, yn ffrind i bawb a phob amser yn barod ei gymwynas. Bydd ei wên gynnes a’i gyfraniad mawr i’r mudiad yn cael ei gofio’n annwyl.
 
"Dan ei arweiniad, bu’n rhan bwysig o greu’r profiadau a’r atgofion arbennig a gafodd cymaint o blant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru, yng Nglan-llyn.
 
"Mae’r Urdd yn anfon cydymdeimlad diffuant at Bethan, Gruffudd a Marged. Mae ein meddyliau gyda’i deulu, ei ffrindiau a’i gymuned yn eu colled."
 

'Amhrisiadwy'

Dywedodd y cynghorydd sir dros ward Y Bala Dilwyn Morgan wrth Newyddion S4C: "Yn sicr, ma' pawb mewn sioc. Ma' cyfraniad Huw i'r gymuned leol, Llanuwchllyn, Y Bala a thu hwnt dros y blynyddoedd wedi bod yn amhrisiadwy. 

"O'dd o'n bilar y gymuned o ran gweithgareddau, yn cefnogi bob peth o'dd yn mynd ymlaen ac o'dd ganddo fo ryw ddawn o allu tynnu bob peth at ei gilydd a thaclusrwydd o ran ei nodiadau. 

"O'dd o'n glerc y cyngor tref yma yn Y Bala, ag o'dd o mor drefnus ag yn bilar a mi fydd hi'n chwith i lot fawr o wahanol fudiadau, gweithgareddau yn y gymuned heb Huw."

Ychwanegodd: "O'dd cyfraniad Huw pan o'dd o'n gyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Glan-llyn mewn adeg o newid a deud y gwir, mi newidwyd lot ar y gwersyll, mi oedd 'na fuddsoddiad a Huw oedd tu ôl i bob peth, fo oedd asgwrn cefn y gwersyll ag yn gallu tynnu y gwersyll i fewn i'r gymuned a'r gymuned i wersyll Glan-llyn felly mi fydd 'na chwith mawr ar ei ôl o."

'Mor uchel ei barch'

Bu Lis Puw yn dysgu Huw Antur yn Ysgol y Berwyn, ac fe ddywedodd wrth Newyddion S4C fod ei gyfraniad yn y gymuned yn amhrisiadwy. 

"Heblaw am ei waith cyflogedig, roedd ei waith gwirfoddol yn anhygoel ac yn eang, rhwng y capel a'r Eagles a phopeth rhwng y ddau begwn hwnnw," meddai.

"Mi oedd o'n gweithio i elusen yn rhoi cartrefi i bobl yn Llanuwchllyn, o'dd o'n ysgrifennydd cwbl wirfoddol Awen Meirion sef y siop lyfre yn Y Bala.

"O'dd o mor weithgar a mor uchel ei barch, a dw i ddim yn gwybod beth 'dan ni'n mynd i wneud hebdda fo. Mae o'n andros o golled i'r ardal. I gyd oedd ei fyd o oedd gwella a chyfoethogi ei fro, dyna oedd nod bywyd Huw. 'Dan ni'n gymaint ar ein colled ar ei ôl o."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.