Angen i Lywodraeth Cymru ddechrau paratoi at annibyniaeth medd Cadeirydd YesCymru
Mae angen i Lywodraeth Cymru ddechrau paratoi ar gyfer y posibilrwydd o Gymru annibynnol, meddai Cadeirydd YesCymru.
Dywedodd Rob Hughes wrth Newyddion S4C y byddai'n disgwyl i unrhyw lywodraeth ddechrau paratoi os yw annibyniaeth yn "bosib" ac "ar y gorwel".
Daw ei sylwadau cyn i YesCymru gynnal gorymdaith dros annibyniaeth yn Aberystwyth ddydd Sadwrn, gyda'r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth ymhlith y siaradwyr yno.
Daw'r orymdaith ddydd Sadwrn bythefnos ar ôl i ganlyniadau arolwg barn gan Survation, a gomisiynwyd gan YesCymru, gael ei chyhoeddi.
Roedd yr arolwg yn nodi y byddai 32% o'r rhai a oedd yn debygol o bleidleisio mewn refferendwm yn pleidleisio dros annibyniaeth, o gymharu â 68% yn erbyn.
Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein ymhlith 1,023 o bobl 16 oed a hŷn yng Nghymru rhwng 13 a 24 Awst.
Pan ofynnwyd beth oedd y rhwystr mwyaf i Gymru i ddod yn annibynnol, fe nododd 46% bryderon am yr economi.
"'Da ni'n edrych ar rywbeth 'dan ni'n credu bod modd ei wireddu yn 2032," meddai Rob Hughes.
"Baswn i'n disgwyl i unrhyw lywodraeth, sy'n gwybod bod hyn yn bosib, ar y gorwel, i ddechrau gwneud paratoadau [ar gyfer annibyniaeth], i sicrhau y gorau i bobl Cymru."
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "cefnogi trafodaeth barhaus a gwybodus am ein dyfodol cyfansoddiadol hirdymor."
Ym mis Awst, fe gyhoeddodd YesCymru ymgyrch i sicrhau refferendwm ar annibyniaeth yn 2032, gyda'r mudiad yn dweud y bydd yn canolbwyntio ar gynyddu cefnogaeth ac ateb cwestiynau ymarferol ynglŷn â dyfodol Cymru.
'Tipyn o beth'
Dywedodd Mr Hughes fod presenoldeb y Prif Weinidog y y rali ddydd Sadwrn yn arwyddocaol i'r mudiad.
"Mae'n dipyn o beth bod gennym ni Brif Weinidog yn siarad yn yr orymdaith.
"'Dyn ni wedi trio bod yn fudiad proffesiynol ac yn fudiad sy'n fodlon cwrdd â siarad â phobl.
"'Dyn ni'n gobeithio erbyn hyn mai dyna mae pobl yn meddwl am YesCymru, mudiad o ddifri' sy'n fodlon trafod annibyniaeth."
Ychwanegodd: "Mae'r ffaith bod Rhun ap Iorwerth yn mynychu yn dangos mai dyna sut mae YesCymru yn edrych ar hyn o bryd, fel mudiad sy'n haeddu sylw a haeddu presenoldeb yng Nghymru."
'Cyfnodau anodd'
Dywedodd Mr Hughes wrth Newyddion S4C fod gan YesCymru 6,000 o aelodau bellach, a bod nifer yr aelodau wedi dechrau tyfu eto wedi blynyddoedd "anodd" i'r mudiad.
"Dydy e ddim yn gyfrinach bod YesCymru wedi cael cyfnodau anodd," meddai.
"So, beth sydd wedi bod yn digwydd 'da ni dros y cyfnod diwethaf yw trio sicrhau bod ni'n adeiladu mudiad sy'n addas i wthio annibyniaeth.
"Mae'n meddwl wedyn bod cysondeb gyda ni, mae'n meddwl bod undod gyda ni hefyd, ac mae'n meddwl bod ni'n trio perswadio pobl i gefnogi'r achos.
"Mae twf yn nifer yr aelodau am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd, ac rydym mewn sefyllfa ariannol dda."
Roedd gan YesCymru tua 18,000 o aelodau ym mis Mawrth 2021, meddai'r mudiad.
'Llwybr datganoli'
Dywedodd Mr Hughes fod YesCymru wedi cwrdd â Llywodraeth Cymru, ond bod gwahaniaeth rhyngddynt ynglŷn â'r ffordd ymlaen i Gymru.
Fe wnaeth Mr Hughes gyfarfod â'r Gweinidog dros Effeithiolrwydd y Llywodraeth a'r Cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies, ym mis Gorffennaf.
"'Dan ni wedi cwrdd â'r Llywodraeth, a'r gwahaniaeth mwyaf rhyngddom ni ar hyn o bryd, fi'n credu, yw bod Llywodraeth Cymru yn credu mewn llwybr datganoli, a 'dyn ni ddim," meddai.
"Y rheswm 'dyn ni ddim yn credu mewn llwybr datganoli pellach yw bod pethau fel Ystad y Goron a phŵer dros reilffyrdd yng Nghymru, mae rheiny yn hawdd i ddwyn.
"A'r ffaith bod rheiny ddim wedi cael eu datganoli yn dangos bod 'na ddim awydd wedyn yn San Steffan i ddatganoli pŵer ymhellach i Gymru."
Yr economi
Ychwanegodd mai'r economi fydd un o brif feysydd gwaith YesCymru.
"Heb os nac oni bai, yr economi yw'r ofn mwyaf.
"Mae grŵp o bobl sydd angen eu darbwyllo ar hynny, bod Cymru yn gallu fforddio annibyniaeth, felly bydd gwaith ni dros y flwyddyn nesaf yn edrych ar yr economi yng Nghymru a gweld sut mae gwledydd eraill o'r un faint wedi tyfu eu heconomi nhw.
"Byddwn ni'n defnyddio arbenigwyr ac economegwyr i ddangos bod Cymru yn gallu fforddio bod yn annibynnol. Dydy e ddim yn mynd i fod yn waith hawdd, ond 'dan ni wedi cysylltu gyda sawl person yn barod."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r llywodraeth newydd hon yn uchelgeisiol dros Gymru, a byddwn yn parhau i ddadlau’n gyson er mwyn sicrhau bod ein cenedl yn gallu cyrraedd ei llawn botensial gyda hyder. Rydym eisiau i bawb gael dweud eu dweud.
“Rydym yn cefnogi trafodaeth barhaus a gwybodus am ein dyfodol cyfansoddiadol hirdymor, ac rydym yn sefydlu Comisiwn Cenedlaethol i helpu i arwain y drafodaeth honno.
“Ein blaenoriaeth gyntaf yw sicrhau’r buddsoddiad cywir, yn ogystal â phwerau cyllidol a chyfansoddiadol gan San Steffan, fydd yn gallu gwella bywydau pobl Cymru ar unwaith.”