Rygbi: Cymru'n colli i'r UDA yng Nghaerdydd
Mae tîm rygbi menywod Cymru wedi colli yn erbyn yr Unol Daleithiau o 24-26 yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Roedd Georgia Evans yn ennill ei 50fed cap dros Gymru wrth i’r tîm wynebu’r Unol Daleithiau yng Nghyfres Fyd-eang WXV ddydd Sadwrn.
Roedd y gêm ym Mharc yr Arfau, Caerdydd, yn ail gêm i Gymru yn y nghyfres WXV ac wyth diwrnod ar ôl iddyn nhw guro De Affrica 50-19 yn yr un stadiwm.
Honno oedd buddugoliaeth gyntaf Cymru mewn gêm brawf ers 14 mis, gyda’r tîm yn sgorio wyth cais.
Roedd y prif hyfforddwr Sean Lynn wedi gwneud tri newid i’r tîm ar gyfer y gêm yn erbyn UDA, gan gynnwys un newid safle.
Fe gymerodd yr ymwelwyr y flaenoriaeth gyda chais ar ôl pum munud i'r wythwr Freda Tafuna yng nghysgod y pyst gyda'r canolwr Annabel Vogel yn trosi. Cymru 0-7 UDA.
Gyda'r ymwelwyr yn cael y gorau'n gorfforol fe groesodd Tafuna am ail gais ar ôl 18 munud ond bu'n rhaid aros am bum munud i'r dyfarnwr wirio am rwystro cyn oedd Vogel wedi gallu trosi. Cymru 0-14 UDA.
Fe roddodd y saib hyn gyfle i Gymru ddod at ei gilydd ac fe darodd y mewnwr Keira Bevan nôl gyda chais cyfrwys ar ôl 22 munud gyda'r canolwr Freya Bell yn trosi. Cymru 7-14 UDA.
Ond ychydig wedi hynny, llwyddodd asgellwr yr Unol Daleithiau gasglu'r bêl ac osgoi amddiffynwyr Cymru i groesi dan y pyst gyda Vogel yn trosi unwaith yn rhagor. Cymru 7-21 UDA.
Er fod yr ymwelwyr yn rheoli'r meddiant daeth cyfle i Gymru o lein yn dilyn cic gosb gyda'r bachwr Kelsey Jones yn croesi am gais yn dilyn gwaith grymus gan y blaenwyr. Fe drosodd Bell unwaith eto a Chymru'n bendant nôl yn y gêm. Cymru 14-21 UDA.
Cafodd Cymru eu gwobrwyo yn yr un modd ar ôl i'r prop Sisilia Tuipulotu groesi am gais ar ôl chwarae ymosodol gan yr olwyr ond fe darodd ymgais Bell am drosiad yn erbyn y pyst. Cymru 19-21 UDA.
Daeth eiliadau ola'r hanner â chyfle hwyr i Gymru wrth i'r Unol Daleithiau gael eu cosbi gyda'r blaenasgellwr Alex Callender, y cyd-gapten, yn croesi am bedwerydd cais ei thîm.
Y sgôr ar yr egwyl: Cymru 24-21 UDA.
Yr UDA ddechreuodd yr ail hanner orau gan orfodi Cymru i dreulio'r rhan fwyaf o'r 10 munud cyntaf yn amddiffyn.
Er i Gymru wneud hyn yn dda doedd dim i stopio Tafuna groesi am ei thrydydd cais ar ôl 51 munud. Cymru 24-26 UDA.
Bu'n rhaid i Gymru ddibynnu ar friwsion o feddiant yn yr ail hanner ond roedd camsyniadau wrth drafod yn ildio'r meddiant yn ôl i'r UDA ac roedd y gêm yn y fantol tan y diwedd.
Y sgôr terfynol: Cymru 24-26 UDA.
Llun: Asiantaeth Huw Evans