Newyddion S4C

Ehangu gwasanaethau mewn fferyllfeydd yng Nghymru

16/12/2021
S4C

Bydd gwasanaethau sydd ar gael mewn fferyllfeydd yng Nghymru yn ehangu fel bod modd i gleifion gael mynediad i wasanaethau’r GIG yn gyfleus ac yn agosach i’w cartrefi.

Mae’r cytundeb newydd yn cynnwys sefydlu gwasanaeth fferylliaeth sy’n rhoi presgripsiynau ledled Cymru.

Bydd hyn yn galluogi fferyllwyr sydd wedi’u hyfforddi’n briodol i drin ystod ehangach o gyflyrau y mae’n rhaid i bobl fynd at eu meddyg teulu i’w trin ar hyn o bryd.

Gobaith y cytundeb yw cynnig gwasanaeth cyfleus a hygyrch, gan ryddhau amser meddygon teulu a gwasanaethau eraill y GIG er mwyn iddynt gefnogi cleifion sydd ag anghenion sy’n fwy cymhleth.

‘Dangos gwerth fferyllfeydd’

Yn ôl Judy Thomas, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Fferylliaeth Gymunedol Cymru, “mae'r pandemig ei hun wedi dangos gwerth fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru.

“Ni oedd yr unig ddarparwr gofal iechyd a gadwodd ein drysau ar agor i'r cyhoedd i ddod mewn. A gyda'r pwysau mewn mannau eraill yn y system mae'n golygu mai fferylliaeth gymunedol oedd y cam cyntaf i lawer o gleifion.”

Image
Fferyllfa

Bydd pob fferyllfa yn gallu rhoi triniaethau ar gyfer mân anhwylderau, sicrhau bod meddyginiaethau ar bresgripsiwn rheolaidd ar gael mewn argyfwng, rhoi’r brechiadau ffliw blynyddol, a rhoi rhai dulliau atal cenhedlu brys a rheolaidd.

Dywedodd Russell Goodway, Prif Weithredwr Fferylliaeth Gymunedol Cymru: “Mae fferyllwyr cymunedol wedi dadlau ers blynyddoedd y buasent yn gallu gwneud mwy o gyfraniad tuag at anghenion GIG Cymru a’i gleifion drwy ddarparu ystod ehangach o wasanaethau clinigol. Mae’r pandemig wedi cadarnhau hyn.

“Bydd hyn yn sicrhau mai’r fferyllfa leol fydd y man galw cyntaf ar gyfer ystod o wasanaethau clinigol gan ymdrin â nifer o gyflyrau y mae’n rhaid cael apwyntiad gyda meddyg teulu i’w trin ar hyn o bryd.”

 ‘Newid sylfaenol’

Erbyn mis Ebrill 2024, bydd cyllid ar gyfer gwasanaethau presgripsiynau annibynnol yn cynyddu o £1.2m i £20.2m bob blwyddyn. Bydd cyllid ar gyfer gwasanaethau fferylliaeth gymunedol glinigol yn cynyddu o £11.4m i £20.0m bob blwyddyn.

Mae cyllid yn parhau i fod ar gael i gynorthwyo fferyllwyr sy’n cwblhau hyfforddiant presgripsiynau annibynnol a hyfforddiant technegydd fferyllol cyn cofrestru.

Yn ôl Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd; “Mae’r newidiadau i’r fframwaith cytundebol fferylliaeth gymunedol yn cynrychioli’r newid sylfaenol mwyaf i’r modd y mae fferyllfeydd yn gweithredu ers sefydlu’r GIG fwy na 70 mlynedd yn ôl.

“Mae ein ‘presgripsiwn newydd’ ar gyfer fferylliaeth gymunedol yn amlinellu dull cydweithredol, arloesol a blaengar o ddarparu gofal fferyllol.”

Yn ychwanegol i’r diwygiadau, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cyllid i alluogi fferyllfeydd i weithredu systemau awtomataidd arloesol.

Bydd robotiaid fferyllol a systemau sy’n debyg i beiriannau ATM yn sicrhau bod modd casglu presgripsiynau 24 awr y dydd. Bydd hyn yn galluogi pobl i gasglu presgripsiynau yn fwy hwylus, yn sicrhau bod fferyllfeydd yn fwy effeithlon, ac yn sicrhau gwell mynediad at y gwasanaethau clinigol sydd ar gael.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.