Ffrainc yn gwahardd teithwyr o'r DU yn sgil pryderon am Omicron
Mae Llywodraeth Ffrainc wedi gwahardd teithwyr o'r Deyrnas Unedig yn sgil pryderon dros ledaeniad yr amrywiolyn Omicron.
Yn ôl Sky News, o ddydd Sadwrn ymlaen bydd teithio rhwng y DU a Ffrainc yn cael ei wahardd heblaw am "resymau cymhellol".
Dywedodd y llywodraeth ym Mharis dydy'r rhesymau yma ddim yn cynnwys twristiaeth neu deithiau busnes.
Mae dinasyddion Ffrainc a'u priod wedi'u heithrio o'r rheolau newydd.
Darllenwch mwy yma.