Newyddion S4C

'Angen newid sylweddol' i'r sector gofal yng Nghymru i sicrhau safonau derbyniol

Newyddion S4C 16/12/2021

'Angen newid sylweddol' i'r sector gofal yng Nghymru i sicrhau safonau derbyniol

Mae Cadeirydd Fforwm Gofal Cymru yn dweud bod angen ‘newidiadau sylweddol' i’r sector gofal yng Nghymru.

Yn ôl Mario Kreft mae’r sector yn wynebu heriau aruthrol gan gynnwys prinder o hyd at 10,000 o ofalwyr.

“Mae sector gofal Cymru yn wynebu ei heriau mwyaf mewn cof. 

“Mae angen nhw i sicrhau bod ein cartrefi gofal wedi'u staffio'n llawn. Nid yw pobl byth yn mynd i gael y gofal iawn heb wneud y newidiadau sydd eu hangen.” 

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n ymwybodol o’r pwysau anferth sydd ar y sector cymdeithasol a'u bod nhw wedi rhoi mwy na £80m i awdurdodau lleol i helpu i gefnogi'r system.

Ond yn ôl Mr Kreft mae angen gwneud mwy i geisio mynd i’r afael â’r problemau staffio o fewn y sector. 

‘Bydde mami wedi cael fwy o ofal’

Mae Menna Williams a’i theulu yn credu eu bod wedi profi sgil effeithiau prinder gofalwyr dros y pandemig. 

Bu’n rhaid i fam Ms Williams symud i fyw mewn cartref gofal yn ystod y cyfnod clo, cyfnod lle'r oedd cyfyngiadau ymweld.

“Nes i ffonio'r cartref ar y penwythnos i siarad gyda mam. Buodd hi'n siarad munud neu ddwy ac yna dywedodd y gofalwr bod popeth yn iawn gyda mam ond bod prinder o staff ar y penwythnos 'ny achos odd pobl yn cael i 'pingo' ar y ffôn a gorfod aros gytre' i hunanynysu," meddai Ms Williams. 

"So odd hi'n dweud bod prinder staff gyda nhw ond bod mam yn iawn."

O fewn deuddydd i’r alwad ffôn - roedd mam Ms Williams yn yr ysbyty yn dioddef o pneumonia a diffyg hylif yn y corff.

Bu farw ei mam wythnos yn ddiweddarach.

Image
S4C
Menna Williams

Mae’r prinder staffio yn rhywbeth sy’n chwarae ar ei meddwl ers marwolaeth ei mam. 

“Se'r prinder staff ddim 'di bod fi'n siŵr bydde mami wedi cael fwy o ofal, fwy o sylw, bendant. 

“Mae fe’n drist iawn achos odd pethe wedi digwydd yn gyflym iawn, a dim ond nawr i ni'n dechrau prosesu pethau. Ond mae'r holl beth yn drist. Mae 'di bod yn gyfnod anodd iawn i'r teulu.”

Yn ôl Mr Kreft, does dim arwydd o welliant i’r sector gofal heb newidiadau sylweddol.

“Mae'n rhaid i ni sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael y parch y maen nhw'n ei haeddu am y gwaith pwysig iawn maen nhw'n ei wneud, mae'n rhaid iddyn nhw gael llwybr clir o ran datblygiad gyrfa, ac mae'n rhaid iddyn nhw gael eu talu ar lefel sydd o leiaf yn cydnabod y gwaith maen nhw'n ei wneud dros ein gwlad.”

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n ymwybodol o’r pwysau sydd ar y sector gofal a'u bod nhw’n gweithio gyda'r sector i fynd i'r afael â heriau hir sefydlog wrth recriwtio a chadw gofalwyr, sydd wedi'u gwaethygu gan Brexit a'r pandemig.

Yn ogystal, mae’r llywodraeth “wedi ymrwymo i ddarparu'r Cyflog Byw Go Iawn i weithwyr gofal yn gynnar yn y tymor hwn i godi cyflogau, ac rydym yn gweithio gyda'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol i wella telerau ac amodau. Rydym am i bob gweithiwr deimlo ei fod yn cael ei wobrwyo, ei barchu a'i gynrychioli.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.