Newyddion S4C

Aelodau YesCymru yn pleidleisio o blaid cyfansoddiad newydd i'r mudiad

Nation.Cymru 16/12/2021
NS4C

Mae aelodau YesCymru wedi pleidleisio o blaid newidiadau i'r mudiad, gan gynnwys cyfansoddiad newydd i'r grŵp ymgyrchu. 

Cafodd y bleidlais ei ohirio dros y penwythnos ar ôl i'r mudiad darganfod problemau gyda'u cronfa ddata, oedd yn dangos fod aelodaeth wedi gostwng 10,000.

Daw'r bleidlais ar ôl cyfnod o ffraeo ymysg y mudiad annibyniaeth a wnaeth arwain at ymddiswyddiad y Pwyllgor Canolog ym mis Awst eleni. 

Yn ôl Nation.Cymru, fe wnaeth 80% o aelodau bleidleisio o blaid y newidiadau strwythurol. 

Mae'r newidiadau hefyd yn cynnwys troi'r mudiad i gwmni cyfyngedig trwy warant. 

Fe fydd y mudiad nawr yn cynnal pleidlais i ethol pwyllgor newydd ym mis Ionawr. 

Darllenwch mwy ar y stori yma. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.