Newyddion S4C

YesCymru wedi colli 10,000 o aelodau

Newyddion S4C 11/12/2021

YesCymru wedi colli 10,000 o aelodau

Cafodd ei ddatgelu ddydd Sadwrn fod mudiad annibyniaeth YesCymru wedi colli miloedd o aelodau ers mis Mawrth 2021.

Roedd Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol wedi ei drefnu dros y penwythnos gyda chyfle i aelodau bleidleisio ar gyfansoddiad newydd i’r mudiad yn ogystal ag ethol pwyllgor newydd.

Ond daeth y cyfarfod i ben yn sydyn ar ôl datgelu fod aelodaeth YesCymru wedi gostwng o 18,000 i 8,000.

Yn ystod y pandemig, fe wnaeth aelodaeth y grŵp gynyddu o 2,500 i 18,000, sy’n golygu fod YesCymru yn un o’r mudiadau gwleidyddol mwyaf Cymru.

Serch hynny mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai anodd gyda rhwygiadau mewnol, dadlau cyhoeddus ar gyfryngau cymdeithasol a phleidlais diffyg hyder yn y pwyllgor canolog.

Ym mis Gorffennaf fe wnaeth y cadeirydd, Sion Jobbins gamu o’r neilltu ac yn fuan wedyn, fe wnaeth y pwyllgor canolog cyfan ymddiswyddo yn dilyn pleidlais o ddiffyg hyder.

Mudiad wedi rhwygo’

“Mae’r mudiad wedi cael ei rhwygo. A ti mod, os oes 'na fodd ei achub o, achos fel brand oedd o’n hynod effeithiol,” meddai'r cyn aelod o Bwyllgor Canolog YesCymru, Huw Marshall.

“Ond dwi jyst yn poeni rŵan beth bynnag ydy’r canlyniad mae 'na ddwy garfan sydd ddim yn mynd i ddod ynghyd.”

Ar ôl cyhoeddi'r gostyngiad mewn aelodaeth ddydd Sadwrn, cafodd y pleidleisio ei ohirio, ac yna ei ymestyn tan ddydd Mercher nesaf.

Fe fyddai hyn yn rhoi’r cyfle i’r mudiad gysylltu gyda chyn-aelodau'r chwe mis diwethaf a gofyn iddynt a hoffan nhw adnewyddu eu haelodaeth.

Y bwriad yw ceisio symud y mudiad ymlaen ac anghofio’r misoedd tymhestlog diwethaf, ond nid pawb sy’n hapus gyda’r hyn sy’n cael ei gynnig.

Image
Elin Hywel
Dyw Elin Hywel ddim yn meddwl fod cyfansoddiad newydd YesCymru yn ddigon "agored". 

Dyw Elin Hywel, sydd hefyd yn gyn aelod o Bwyllgor Canolog YesCymru ddim yn teimlo fel ei bod yn gallu’r cefnogi’r cyfansoddiad newydd sydd wedi mynd gerbron aelodau.

“Er enghraifft, mae cyfansoddiad YesCymru ar y funud fatha mae o yn sicrhau bod merched a phobl o grwpiau ethnig lleiafrifol yn cael eu cynnwys ar y pwyllgor canolog.

“Am ba reswm dwi ddim yn siŵr, ond mae hynny di cael ei dynnu allan o’r cynnig yma.”

Ychwanegodd: “Fedra i ddim cefnogi'r cynnig oherwydd hynny”.  

Mae eraill o fewn YesCymru yn dadlau bod y cynigion yn proffesiynoli'r mudiad.

Mae aelodau sydd wedi siarad gyda rhaglen Newyddion S4C wedi dweud fod y cyfansoddiad yn nodi’n glir yr angen i fod yn groesawgar ac yn agored i bawb, waeth o ba gefndir, yn yr ymgyrch dros annibyniaeth.

Doedd neb o’r gweithgor fuodd yn gweithio ar y cynigion newydd ar gael i siarad na rhoi datganiad i raglen Newyddion S4C.

Yn y gorffennol maent wedi dweud bod gweledigaeth a gwerthoedd YesCymru yn nodi'n glir yr angen am Gymru annibynnol sy'n ddiogel ac yn agored i bawb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.