Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma gipolwg ar rai o brif straeon bore dydd Mawrth 16 Tachwedd.
Mudiad Meithrin yn galw am fwy o arian i geisio datrys problemau staffio ‘heriol’
Mae Prif Weithredwr Mudiad Meithrin wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r cymorth ariannol sydd ar gael trwy’r Cynnig Gofal Plant, er mwyn mynd i’r afael â phroblemau recriwtio ledled Cymru. Mae’r Cynnig Gofal Plant yn gynllun gan y llywodraeth lle mae modd i rieni plant tair i bedair oed hawlio arian tuag at gost gofal plant.
Ffrwydrad Lerpwl: Pedwar dyn wedi eu rhyddhau gan yr heddlu
Mae pedwar dyn a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â digwyddiad terfysgol yn Lerpwl fore Sul bellach wedi cael eu rhyddhau. Yn ôl Sky News, cafodd tri dyn, 29, 26 a 21 oed eu harestio dan y Ddeddf Terfysgaeth mewn un cyfeiriad a phedwerydd dyn, 20 oed, mewn cyfeiriad arall yn y ddinas. Daeth hyn ar ôl i dacsi ffrwydro ychydig cyn 11:00 mewn parth gollwng ger mynedfa Ysbyty Merched Lerpwl, gan ladd y teithiwr ac anafu'r gyrrwr.
Cynnal cwestau i farwolaethau pedwar padl-fyrddiwr ar Afon Cleddau
Bydd cwestau i farwolaethau pedwar padl-fyrddiwr fu farw mewn digwyddiad ar Afon Cleddau yn cael eu cynnal ddydd Mawrth. Bu farw tri o'r padl-fyrddwyr, Paul O’Dwyer, 42, o Bort Talbot, Morgan Rogers, 24, o Ferthyr Tudful a Nicola Wheatley, 40 o Bontarddulais ar yr afon yn Hwlffordd, Sir Benfro ddydd Sadwrn 30 Hydref. Bu farw Andrea Powell, 41, o Ben-y-bont ar Ogwr yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Cronfa newydd i geisio mynd i'r afael â chostau byw dros y gaeaf
Bydd pecyn cymorth ariannol newydd ar gael i helpu teuluoedd sy'n wynebu argyfwng costau byw dros y gaeaf, medd Llywodraeth Cymru. Gobaith y llywodraeth yw y bydd y gronfa £51m yn helpu teuluoedd i dalu biliau, gan gynnwys costau gwresogi ac ynni. Daw'r cyhoeddiad am y Gronfa Gymorth i Aelwydydd ddiwrnod wedi i adroddiad newydd gael ei gyhoeddi oedd yn rhybuddio fod "gwaeth ar y gorwel" i'r bobl dlotaf yng Nghymru.
Cwpan y Byd 2022: Cymru'n herio Gwlad Belg mewn gobaith o sicrhau ail safle
Fe fydd gan dîm pêl-droed Cymru gyfle i sicrhau gorffen yn ail yn eu grŵp yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 nos Fawrth. Roedd perfformiad a chanlyniad y fuddugoliaeth yn erbyn Belarws o 5-1 nos Sadwrn yn hwb i obeithion dynion Robert Page, ond y tro hwn fe fydd yr her yn dipyn caletach.