Cynnal cwestau i farwolaethau pedwar padl-fyrddiwr ar Afon Cleddau
Bydd cwestau i farwolaethau pedwar padl-fyrddiwr fu farw mewn digwyddiad ar Afon Cleddau yn cael eu cynnal ddydd Mawrth.
Bu farw tri o'r padl-fyrddwyr, Paul O’Dwyer, 42, o Bort Talbot, Morgan Rogers, 24, o Ferthyr Tudful a Nicola Wheatley, 40 o Bontarddulais ar yr afon yn Hwlffordd, Sir Benfro ddydd Sadwrn 30 Hydref.
Bu farw Andrea Powell, 41, o Ben-y-bont ar Ogwr yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Fe fydd y cwestau i farwolaethau'r pedwar yn cael eu cynnal yn Neuadd y Dref Llanelli dan ofal y Crwner dros Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
Yn dilyn y marwolaethau fe gyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys fod menyw o dde Cymru wedi ei harestio ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd fel rhan o'r ymchwiliad i'r trychineb.
Y disgwyl yw y bydd y cwestau'n cael eu hagor a'u gohirio tan y bydd ymchwiliad yr heddlu wedi dirwyn i ben.