Trychineb Afon Cleddau: Menyw wedi marw ac un arall wedi ei harestio
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau fod menyw o dde Cymru wedi ei harestio ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd fel rhan o ymchwiliad i drychineb diweddar ar yr afon Cleddau.
Mae'r llu hefyd wedi cadarnhau fod menyw arall wedi marw o ganlyniad i'r digwyddiad.
Roedd Andrea Powell, 41, o Ben-y-bont ar Ogwr wedi bod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty cyn ei marwolaeth.
“Rydym yn cefnogi ei theulu, ac rydym am ofyn i bobl barchu preifatrwydd y teulu yn ystod y cyfnod anodd hwn,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
Dyma’r pedwerydd person i farw ar ôl mynd i drafferthion tra’n padlfyrddio ar yr afon yn Hwlffordd, Sir Benfro ddydd Sadwrn 30 Hydref.
Bu farw Morgan Rogers 24, o Ferthyr Tudful, Nicola Wheatley, 40, o Bontarddulais a Paul O'Dwyer, 42 o Bort Talbot yn ystod y trychineb.
Surfers pay tributes on Aberavon beach to the four paddleboarders who died on the River Cleddau last weekend. pic.twitter.com/vLmhZHud8V
— Claire Pearson (@clairepearson66) November 6, 2021
Yn y cyfamser, mae dros 1000 o bobl wedi dod ymgynnull yn nhraeth Aberafan i weld y Clwb Syrffio a chlwb rygbi Green Stars Aberafan yn rhoi teyrnged i'r diweddar Paul O'Dwyer.
Dywedodd cadeirydd y clwb syrffio, Matthew Tamlin fod "Paul yn ddyn anhygoel, ac yn ffrind gwych i bawb".
"Roedd o mor anhunanol, bob amser yn gwneud pethau i eraill, sy'n rhinwedd grêt."
Yn hwyr nos Wener, cadarnhaodd y llu fod menyw sydd heb ei henwi wedi ei harestio ac wedi ei rhyddhau tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Mae'r llu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a fedrai fod o gymorth i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.