Newyddion S4C

Ffrwydrad Lerpwl: Pedwar dyn wedi eu rhyddhau gan yr heddlu

Sky News 16/11/2021
Lerpwl_Paul Ellis _ AFP_ Wochit.jpg

Mae pedwar dyn a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â digwyddiad terfysgol yn Lerpwl fore Sul bellach wedi cael eu rhyddhau.

Yn ôl Sky News, cafodd tri dyn, 29, 26 a 21 oed eu harestio dan y Ddeddf Terfysgaeth mewn un cyfeiriad a phedwerydd dyn, 20 oed, mewn cyfeiriad arall yn y ddinas.

Daeth hyn ar ôl i dacsi ffrwydro ychydig cyn 11:00 mewn parth gollwng ger mynedfa Ysbyty Merched Lerpwl, gan ladd y teithiwr ac anafu'r gyrrwr.

Mae'r swyddogion gwrthderfysgaeth wedi cadarnhau mai enw'r dyn fu farw oedd Emad Al Swealmeen, 32 oed.

Mae lefel y bygythiad terfysgol yn erbyn y DU wedi codi o fod yn "sylweddol" i fod yn un "difrifol" - gyda "thebygolrwydd uchel" o ymosodiad medd y Swyddfa Gartref.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Paul Ellis / AFP / Wotchit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.