Newyddion S4C

Enwi dyn fu farw mewn digwyddiad terfysgol yn Lerpwl

Newyddion S4C 15/11/2021

Enwi dyn fu farw mewn digwyddiad terfysgol yn Lerpwl

Mae'r heddlu wedi cadarnhau enw dyn fu farw yn dilyn digwyddiad terfysgol yn Lerpwl fore Sul.

Dywed y swyddogion gwrthderfysgaeth sy'n ymchwilio i'r digwyddiad mae Emad Al Swealmeen, 32 oed, fu farw yn y ffrwydrad.

Mae swyddogion yn chwilio dau gyfeiriad sydd â chysylltiad ag Al Swealmeen, gan gynnwys ei gartref.

Mae lefel y bygythiad terfysgol yn erbyn y DU wedi codi o fod yn "sylweddol" i fod yn un "difrifol" - gyda "thebygolrwydd uchel" o ymosodiad medd y Swyddfa Gartref.

Ffrwydrodd tacsi ychydig cyn 11:00 mewn parth gollwng ger mynedfa’r ysbyty, gan ladd y teithiwr ac anafu'r gyrrwr.

Mae'r digwyddiad wedi achosi tipyn o syndod yn lleol gyda nifer o Gymry'r ddinas yn disgrifio eu sioc ar ôl clywed y newyddion.

'Tipyn o sioc'

Dywedodd Jâms Ward sy'n byw yn Lerpwl wrth Newyddion S4C: "Ma' 'na ryw deimlad fel o'n i'n dweud sioc yn y dref 'lly.

"O'n i'm yn disgwyl idda fo ddigwydd fama, ond eto 'dan ni'n ddinas fawr dydan, felly ma'n gallu digwydd."

Mae John Roberts yn fyfyriwr yn y brifysgol yn Lerpwl.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Ma'n dipyn o sioc gan bo ni'n byw mor lleol i'r ysbyty. 

"Hefyd gan bo ni'n fyfyrwyr newydd fyswn i ddim yn disgwyl i rywbeth fel yma ddigwydd." 

Mae gyrrwr y tacsi, sydd wedi ei enwi yn lleol fel David Perry, wedi cael ei ddisgrifio fel 'arwr' gan Faer Lerpwl, Joanne Anderson, am gloi'r sawl sydd dan amheuaeth tu mewn i'r cerbyd.

Mae pedwar dyn wedi eu harestio, gyda thri o'r pedwar yn cael eu holi dan rymoedd y Ddeddf Derfysgaeth. 

Llun: Paul Ellis / AFP/ Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.