Cwpan y Byd 2022: Cymru i herio Gwlad Belg heb Gareth Bale yn y garfan
Fe fydd gan dîm pêl-droed Cymru gyfle i sicrhau gorffen yn ail yn eu grŵp yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 nos Fawrth.
Roedd perfformiad a chanlyniad y fuddugoliaeth yn erbyn Belarws o 5-1 nos Sadwrn yn hwb i obeithion dynion Robert Page, ond y tro hwn fe fydd yr her yn dipyn caletach gan nad yw Gareth Bale yn y garfan o achos anaf.
Gwlad Belg - sydd ar frig y grŵp - sy'n teithio i Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer y gêm ragbrofol olaf o'r ymgyrch, ac mae angen pwynt ar Gymru i sicrhau'r ail safle.
Mae Cymru eisoes wedi sicrhau lle yn y gemau ail gyfle wedi buddugoliaeth Sbaen yn erbyn Groeg nos Iau.
Dyma'r tro cyntaf i Gymru sicrhau lle yng ngemau ail gyfle Cwpan y Byd ers 1958.
Ond byddai gorffen yn ail yn y grŵp yn golygu gêm gartref i Gymru yn rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle.
Y tro diwethaf i Gymru chwarae yn erbyn Gwlad Belg, cawsant eu curo oddi cartref o 3-1.
Bydd Cymru yn ymwybodol o'r her ond yn sicr o'u gallu ar y cae wedi'r fuddugoliaeth nos Sadwrn.
Absenoldeb
Ni fydd Gareth Bale yng ngharfan Cymru ar gyfer y gêm nos Fawrth ar ôl chwarae'r hanner cyntaf yn erbyn Belarws.
Mae sawl chwaraewr dylanwadol yn absennol o garfan Gwlad Belg, gan gynnwys Romelu Lukaku, Eden Hazard, Toby Alderweireld a Youri Tielemans.
Mae mantais o chwarae gartref gan Gymru y tro hwn - y tro diwethaf i'r ddwy wlad wynebu ei gilydd yng Nghaerdydd yn 2015 enillodd Cymru o 1-0.
Roedd y Wal Goch yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ben eu digon nos Sadwrn wrth i Bale ennill ei 100fed cap dros ei wlad.
Sgoriodd Neco Williams a Connor Roberts yn erbyn Belarws - gyda Ben Davies hefyd yn sgorio ei gôl gyntaf i Gymru.
Daeth dwy gôl diolch i Aaron Ramsey a gamodd i rôl y capten am y rhan fwyaf o'r ail hanner wedi i Bale ddod oddi ar y cae.
Bydd y gic gyntaf am 19:45, gyda Chymru v Gwlad Belg yn fyw ar S4C.