Teyrnged i ddyn 86 oed a fu farw wedi gwrthdrawiad ym Mhowys
Mae teulu dyn 86 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys yn gynharach y mis hwn wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw tri o bobl wedi gwrthdrawiad ar ffordd yr A489 rhwng Yr Ystog a Lydham ar 11 Rhagfyr.
Mae teyrngedau eisoes wedi eu rhoi i ddyn a menyw, David a Pamela, oedd yn teithio yn y car gyda’i gilydd.
Mae teulu'r trydydd person fu farw, John Pryce Jones 'Thiabendazole', 86, bellach wedi rhoi teyrnged iddo.
Fe ddywedodd y teulu:"Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi bod mor gefnogol yn ystod y cyfnod anodd tu hwnt yma.
"Mae eich geiriau a'ch gweithredoedd caredig wedi bod yn amhrisiadwy i ni gyd.
"Roedd John o ganolbarth Cymru ac yn byw yn Craven Arms. Roedd yn gymeriad mawr a oedd yn adnabyddus i nifer o bobl a bydd pawb yn ei golli’n fawr."
Mae swyddogion yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad ar yr A489 i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod '267 ar 11 Rhagfyr'.
Mewn teyrnged yr wythnos diwethaf, dywedodd teulu David a Pamela, oedd yn teithio yn y car gyda’i gilydd: “Roedd David a Pamela yn aelodau cariadus o’m teulu.
“Roedd y ddau ohonynt yn arbennig iawn i bob un ohonom.
“Fe wnaeth David a Pamela symud i’r ardal yn gynharach y flwyddyn hon er mwyn mwynhau eu hymddeoliad.
“Hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth yn ystod y cyfnod erchyll hwn. Mae wedi golygu gymaint i’r teulu cyfan.
“Hoffwn nawr gael amser i alaru ac rydym yn gofyn am breifatrwydd er mwyn gallu gwneud hynny.”