Newyddion S4C

Mudiad Meithrin yn galw am fwy o arian i geisio datrys problemau staffio ‘heriol’

16/11/2021

Mudiad Meithrin yn galw am fwy o arian i geisio datrys problemau staffio ‘heriol’

Mae Prif Weithredwr Mudiad Meithrin wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r cymorth ariannol sydd ar gael trwy’r Cynnig Gofal Plant, er mwyn mynd i’r afael â phroblemau recriwtio ledled Cymru.

Mae’r Cynnig Gofal Plant yn gynllun gan y llywodraeth lle mae modd i rieni plant tair i bedair oed hawlio arian tuag at gost gofal plant.

Daw’r alwad gan y Prif Weithredwr, Dr Gwenllian Lansdown Davies wrth i rai cylchoedd frwydro i oroesi yn sgil problemau recriwtio.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wrthi ar hyn o bryd yn adolygu'r gyfradd gyflog fesul awr.

Image
x
Mae sawl cylch yn gorfod brwydro i oroesi oherwydd problemau recriwtio

 hwythau'n dathlu 50 mlynedd ers cael eu sefydlu eleni, dyw problemau recriwtio “ddim yn her newydd” i’r Mudiad, ond mae’r sefyllfa wedi gwaethygu yn ddiweddar, meddai Dr Lansdown Davies.

Dyma oedd yn gyfrifol am gau drysau Cylch Meithrin pentref Cynwyl Elfed yn Sir Gaerfyrddin rhyw dair blynedd yn ôl.

Wrth sylwi fod galw am gylch yn yr ardal, fe benderfynodd criw o rieni’r pentref sefydlu pwyllgor a cheisio mynd ati i ail-ddechrau’r cylch.

Ond flwyddyn a hanner yn ddiweddarach, mae’r cynlluniau wedi mynd yn ofer.

“Ni wedi hysbysebu'r swyddi pump o weithiau erbyn hyn,” eglurodd Gethin Page, Cadeirydd Pwyllgor Cylch Cynwyl Elfed.

“Y tro cyntaf, dim ond un wnaeth drio, a ni angen dau berson i weithio yn y cylch.

“Yr eildro, fe wnaeth dau drio, ond yna tynnu’n ôl cyn y cyfweliadau, a’r tair gwaith diwethaf ni wedi hysbysebu, does 'na neb wedi trio.”

Yn sgil pryderon y gallai lleoliad gwledig y swyddi a’r oriau cyfyngedig fethu ag apelio i weithwyr, fe benderfynodd y pwyllgor ymestyn y tâl, yr oriau a diwrnodiau gweithio’r swydd.

Ond dyw’r newidiadau heb ennyn mwy o ddiddordeb.

Image
x
Mae'r Mudiad Meithrin yn dathlu 50 o flynyddoedd ers cael eu sefydlu eleni

'Arian ddim ar gael'

Tebyg yw’r stori i gylch Llangwyryfon yng Ngheredigion, sydd wedi bod mewn bodolaeth ers 40 o flynyddoedd.

Yn ôl arweinydd y cylch, Bethan Llŷr Jenkins, dydyn nhw erioed wedi gweld problemau staffio fel hyn o’r blaen.

Fe adawodd y cyn-arweinydd ym mis Mai, ac er i’r swydd gael ei hysbysebu dwywaith, does neb wedi dangos diddordeb.

Oni bai y byddai Bethan wedi camu fewn fel arweinydd dros dro, “byddai’r cylch wedi cau”, meddai.

“Os doeddwn i ddim yn ei wneud e, bydde’r cylch yn cau,” meddai.

“Bydde fe’n gymaint o siom gweld y cylch yn cau ar ôl 40 o flynyddoedd, felly nes i benderfynu camu fewn.”

Maen nhw hefyd yn gweld hi’n anodd dod o hyd i staff wrth gefn, neu staff banc, gyda Bethan yn ofni fod y cyflogau yn “rhy isel”.

“Os chi’n meddwl mae pobl mewn archfarchnadoedd yn cael o gwmpas £10 yr awr, ac mae gweithwyr y Mudiad Meithrin yn cael isafswm cyflog, a’r cyfrifoldeb sydd gyda’r bobl yma yn edrych ar ôl plant, fi yn teimlo y dyle nhw gael tâl uwch – ond yn anffodus, dydy’r arian ddim ar gael.”

Image
Gwenllian Lansdown
Dyw problemau recriwtio “ddim yn her newydd” i’r Mudiad, ond mae’r sefyllfa wedi gwaethygu yn ddiweddar, meddai Dr Lansdown Davies

‘Cyfnod diweddar wedi bod yn brawf’

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Dr Lansdown Davies “nad oes ateb syml i’r broblem,” ond yn y pendraw, fe fyddai cynyddu’r cyllid sydd ar gael trwy’r Cynnig Gofal Plant yn creu newid.

“Mae’r cyfnod diwethaf wedi bod yn brawf i bawb sy’n gweithio yn y sector, ac mae 'na grantiau wedi cael ei darparu sydd wedi bod o gymorth mawr.

“Mae 'na newid positif iawn wedi digwydd yn sgil y Cynnig Gofal Plant, ond mae hi yn amserol i ni fod yn holi oes angen i ni weld cynnydd yn y gyfradd gyllido – fel bo ni’n gallu cynnig cyflogau gwell i bobl yn y sector a chynnig gwell i rieni.”

Ychwanegodd fod gostyngiad wedi bod yn y niferoedd sy’n derbyn hyfforddiant trwy gynlluniau’r Mudiad Meithrin megis Cam wrth Gam, ond eu bod nhw mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru i weld y momentwm oedd yn arfer bod yn ei le yn cael ei “adfer unwaith eto”.

Maen nhw hefyd yn “annog” cylchoedd meithrin i ymestyn ar eu darpariaeth i apelio at fwy o weithwyr, gan fod hyn yn becyn sy’n “ymylu ar waith sy’n llawn amser”.

I Gethin Page yng Nghynwyl Elfed, mae absenoldeb y cylch yn golygu mwy na cholli gofal plant.

“Yn anffodus, mae 'na sawl teulu, ni’n cynnwys yn hwnna, sy’n gorfod teithio heibio’r ysgol a lle oedd y cylch yn arfer bod, a mynd mewn i dref Caerfyrddin lle mae’r cylch agosaf, sydd yn drueni mawr.

“Mae gan y cylch rôl bwysig yn sicrhau bo ni’n cadw’r teuluoedd ifanc a phlant yn yr ardaloedd gwledig.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn adolygu'r gyfradd fesul awr ar gyfer gofal plant y telir amdano drwy ein cynllun Cynnig Gofal Plant Cymru ac rydym yn gobeithio cyhoeddi’r canlyniad yn y Flwyddyn Newydd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.