Cronfa newydd i geisio mynd i'r afael â chostau byw dros y gaeaf
Bydd pecyn cymorth ariannol newydd ar gael i helpu teuluoedd sy'n wynebu argyfwng costau byw dros y gaeaf, medd Llywodraeth Cymru.
Gobaith y llywodraeth yw y bydd y gronfa £51m yn helpu teuluoedd i dalu biliau, gan gynnwys costau gwresogi ac ynni.
Daw'r cyhoeddiad am y Gronfa Gymorth i Aelwydydd ddiwrnod wedi i adroddiad newydd gael ei gyhoeddi oedd yn rhybuddio fod "gwaeth ar y gorwel" i'r bobl dlotaf yng Nghymru.
Roedd yr adroddiad gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd yn rhybuddio bod "mwy o bobl yn mynd i ddyled nawr er mwyn cwrdd â hanfodion bob dydd".
Dywed y llywodraeth y bydd y pecyn cymorth yn cael ei ariannu o gronfeydd wrth gefn i helpu aelwydydd incwm is.
'Argyfwng costau byw'
Bydd cymorth ychwanegol yn cael ei roi i fanciau bwyd a chynlluniau bwyd cymunedol fel rhan o'r pecyn.
Bydd aelwydydd cymwys yn gallu hawlio taliad untro o £100 a bydd ar gael i gwsmeriaid ynni sy'n talu am eu tanwydd drwy ragdaliad neu fesurydd credyd.
Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Cymru: "Mae teuluoedd ledled Cymru yn wynebu argyfwng costau byw go iawn o ganlyniad i brisiau cynyddol a thoriadau i fudd-daliadau allweddol.
"Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r heriau digynsail hyn, rydym yn darparu £51m i ddatblygu ein cronfa bwrpasol ein hunain, sef y Gronfa Gymorth i Aelwydydd, i helpu gyda rhai o'r costau y mae teuluoedd yn eu hwynebu."
Ychwanegodd Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: "Rydym yn poeni'n fawr y bydd yr argyfwng costau byw, sy'n digwydd mor agos at y Nadolig, yn gorfodi teuluoedd i droi at fenthycwyr cost uchel neu fenthycwyr arian didrwydded anghyfreithlon i helpu i gael dau ben llinyn ynghyd.
"Bydd y gronfa hon yn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r dewisiadau amgen a all fod o help."
Mae disgwyl mwy o fanylion am y Gronfa Gymorth i Aelwydydd dros yr wythnosau nesaf.