Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da wrth dîm Newyddion S4C.
Dyma brif straeon bore Iau 28 Hydref.
Mark Drakeford: ‘Y ddegawd nesaf yn allweddol i gyflawni Sero-Net’
Mae angen i Gymru wneud mwy yn y ddeng mlynedd nesaf i fynd i’r afael â newid hinsawdd na’r hyn sydd wedi ei wneud yn y 30 mlynedd ddiwethaf, yn ôl y Prif Weinidog. Roedd Mark Drakeford yn siarad wrth gyhoeddi cynllun Sero-Net Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyrraedd sero net erbyn 2050.
Covid-19: Bwrdd Iechyd yn atal ymweliadau ysbytai 'ar unwaith'
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi atal ymweliadau i'w hysbytai "ar unwaith". Daw hyn yn dilyn cynnydd mewn achosion o Covid-19 yn ysbytyai y De-Orllewin. Yn ôl y Bwrdd, bydd ymweliadau yn cael eu caniatáu dan rai amgylchiadau, megis diwedd oes a gofal critigol.
Cronfa £1m i gefnogi'r rhai sy'n galaru ei hangen 'yn fwy nag erioed'
Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi fframwaith newydd sy’n cefnogi pobl yng Nghymru sy’n galaru. Mae’n cael ei gefnogi gan grant o £1m sydd ar gael i ddarparwyr gofal y trydydd sector. Mae galar wedi dod yn rhan o fywydau nifer gyda mwy na 6,000 o bobl wedi colli eu bywydau i'r coronafeirws, yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ffrainc yn cosbi dau o’r DU wrth i anghydfod dros hawliau pysgota ddwysáu
Mae Ffrainc wedi cosbi dau berson am bysgota oddi ar ei harfordir, yn ôl Llywodraeth Ffrainc. Mae un pysgotwr wedi ei ddal gan y Weinidogaeth Forol yn Ffrainc ac un arall wedi derbyn rhybudd llafar. Yn ôl Sky News, dyma’r digwyddiad diweddaraf yn yr anghydfod rhwng Ffrainc a’r DU dros hawliau pysgota yn dilyn y cytundeb Brexit.
Rhybudd melyn am law trwm i Gymru
Mae rhybudd melyn yn ei le ar gyfer glaw trwm i rannau o Gymru am y deuddydd nesaf. Bydd rhybudd y Swyddfa Dywydd mewn grym rhwng 06:00 fore Iau ac yn parhau tan 15:00 ddydd Gwener. Fe allai’r glaw achosi llifogydd mewn rhai cartrefi a busnesau, a gallai gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gael eu heffeithio hefyd.