Mark Drakeford: ‘Y ddegawd nesaf yn allweddol i gyflawni Sero-Net’
Mae angen i Gymru wneud mwy yn y ddeng mlynedd nesaf i fynd i’r afael â newid hinsawdd na’r hyn sydd wedi ei wneud yn y 30 mlynedd ddiwethaf, yn ôl y Prif Weinidog.
Roedd Mark Drakeford yn siarad wrth gyhoeddi cynllun Sero-Net Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyrraedd sero net erbyn 2050; uchelgais i sicrhau nad oes mwy o nwyon tŷ gwydr yn cael ei gynhyrchu na’r hyn sy’n cael ei ddileu o’r atmosffer.
Heddiw wrth i ni gyhoeddi cynllun Sero Net Cymru – y cam nesaf yn ein taith tuag at Gymru wyrddach, gryfach a thecach, rydym yn galw am 'ddegawd o weithredu' i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Mwy yma:https://t.co/7647GJ1BCE pic.twitter.com/wolNOUwR92
— Llywodraeth Cymru Newid Hinsawdd (@NewidHinsawdd) October 28, 2021
Mae Sero-Net Cymru yn cael ei gyflwyno dyddiau yn unig cyn cynhadledd newid hinsawdd COP26 yng Nglasgow ddydd Sul.
Mae’r cynllun yn cyflwyno 120 o bolisïau a chynigion gan y llywodraeth.
Beth yw rhai o brif gynigion Sero-Net Cymru?
-
Adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu.
-
Buddsoddi mewn opsiynau teithio sy'n annog pobl i ddefnyddio mwy ar drafnidiaeth gyhoeddus a chefnogi cerdded a beicio.
-
Plannu mwy o goed.
-
Deddfu i wahardd y plastigau untro sy’n cael eu taflu’n sbwriel fwyaf.
-
Cefnogi arloesedd mewn technoleg ynni adnewyddadwy newydd.
-
Datblygu sgiliau gwyrdd mewn busnesau.
Mae’r llywodraeth hefyd yn nodi eu gobeithion i weld y sector gyhoeddus gyfan yng Nghymru yn Sero net erbyn 2030.
Erbyn Mawrth 2023 bydd disgwyl i bob sefydliad yn y sector cyhoeddus gyflwyno adroddiad o'u allyriadau a chyflwyno cynlluniau i fod yn Sero-Net.
Ym mis Mawrth, cafodd y cynlluniau i ddatgarboneiddio’r GIG eu cyhoeddi, sy’n cynnwys cyflwyno newidiadau i sawl haen o’r gwasanaeth i leihau allyriadau.
Mae Dŵr Cymru wedi gosod targed o gyrraedd Sero-Net erbyn 2040.
29 o brosiectau newydd i helpu ‘Tîm Cymru’ ar gyfer argyfyngau newid hinsawdd a natur
"Bydd angen i ni wneud mwy yn y deng mlynedd nesaf nag rydym wedi’i wneud yn y 30 mlynedd diwethaf,” meddai’r Prif Weinidog.
“Bydd hyn yn anodd ond fe lwyddwn drwy gydweithio.
"Rhaid peidio â gwneud yn fach o’r heriau sy'n ein hwynebu yn y degawdau nesaf, a rhaid i ni i gyd weithio gyda'n gilydd i fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd a ddaw.”
Mewn ymateb i'r cynllun, dywedodd Gweinidog Cysgodol dros Newid Hinsawdd y Ceidwadwyr Cymreig, Janet Finch-Saunders bod y cynllun yn "afrealistig ac yn niweidiol i'r economi".
Dywedodd: “Tra bod llawer i'w gymeradwyo yn y cynllun hwn i gyrraedd y nod traws-bleidiol o gyrraedd sero net erbyn 2050, mae yna hefyd rai cynigion sydd, ar eu gorau, yn afrealistig ac, ar eu gwaethaf, yn niweidiol i'r economi."
“Mae cyrraedd allyriadau sero yn hanfodol i roi diwedd ar newid hinsawdd, ond os na all hynny gael ei wneud heb ganiatâd y cyhoedd ac mewn ffordd sy'n dod â thwf, dim ond gwneud y nod yn llai poblogaidd ac yn fwy anodd i'w gyrraedd mae hynny."
Ychwanegodd Mr Drakeford fod y llywodraeth yn galw ar Lywodraeth y DU i “chwarae ei rhan deg hithau” er mwyn cyrraedd targedau’r Deyrnas Unedig.
Mae Strategaeth Sero-Net Llywodraeth y DU yn gosod targedau o haneru allyriadau’r DU mewn degawd, a’u dileu nhw’n llwyr erbyn 2050.
Mae hyn yn cynnwys datblygu ynni adnewyddadwy a dod â cheir petrol a diesel i ben yn raddol; targedau sy’n “gyraeddadwy” yn ôl y Pwyllgor Newid Hinsawdd.