Newyddion S4C

29 o brosiectau newydd i helpu ‘Tîm Cymru’ ar gyfer argyfyngau newid hinsawdd a natur

Llyn Fyrnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydden nhw’n buddsoddi £7m i brosiectau newydd a fydd yn helpu ‘Tîm Cymru’ i fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur.

Mae'r 29 prosiect ar draws Cymru, a fydd yn cael eu cefnogi gan Gronfa Rhwydweithiau Natur, yn darparu noddfa a diogelwch i bron i 70 o rywogaethau, a mwy na 50 math o gynefinoedd sy'n wynebu bygythiadau ledled y byd.

Y gobaith yw y bydd y buddsoddiad o £7m yn “mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur” a diogelu’r amgylchedd i “genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau”.

Dywedodd Julie James AS: "Gan gydnabod pwysigrwydd defnyddio grym cymunedau lleol, bydd yr arian hwn yn cefnogi gwyddoniaeth dinasyddion, rhaglenni ymgysylltu ag ysgolion a hyfforddi gwirfoddolwyr i adeiladu rhwydweithiau o bobl sy'n ymwneud â'r safleoedd hyn, sy'n gonglfeini ein gwaith adfer natur.

"Mae angen dull 'Tîm Cymru' arnom os ydym am gyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol i adfer natur.

“Rydyn ni eisiau i bawb yng Nghymru weld natur - oherwydd os yw pobl mewn cysylltiad â natur, mae nhw'n gwerthfawrogi natur."

Mae Prosiect SIARC (Sharks Inspiring Action and Research with Communities), sy'n gweithredu ym Mae Caerfyrddin a Bae Tremadog yn un o'r prosiectau i elwa o'r buddsoddiad.

Mae’r prosiect, sydd yn cael ei harwain gan Gymdeithas Sŵolegol Llundain (ZSL) wedi derbyn £390,000 o’r cyllid i gynnal ymchwil cadwraeth hanfodol ar amgylchedd morol Cymru gyda ffocws cryf ar siarcod a morgathod.

Dywedodd Joanna Barker, Uwch Reolwr Prosiect ZSL: "Rydym yn teimlo’n gyffrous i gynyddu ein cydweithrediad â physgotwyr a chwblhau ymchwil arloesol i ddeall yn well y rhywogaethau siarcod a morgathod anhygoel sy'n defnyddio dwy o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Cymru.

"Gyda sawl cyfle i ysgolion a chymunedau lleol fod yn rhan o Brosiect SIARC, rydym yn gobeithio creu gwerthfawrogiad newydd o'r amgylchedd tanddwr yng Nghymru a nodi ffyrdd i ystod ehangach o bobl gymryd rhan."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.