Newyddion S4C

Rhybudd melyn am law trwm dros nos a dydd Gwener

28/10/2021
Glaw

Mae glaw trwm wedi achosi trafferthion ar hyd rhai o ffyrdd y gogledd brynhawn dydd Iau, gyda rhan o'r A55 ar gau ym Môn am gyfnod.

Roedd yr A55 rhwng C4 RAF Fali a C5 Rhosneigr ar gau oherwydd llifogydd, ond mae'r ffordd bellach wedi ei hail-agor. 

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm nos Iau hyd at 15:00 ddydd Gwener. 

Fe allai’r glaw achosi llifogydd mewn rhai cartrefi a busnesau, a gallai gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gael eu heffeithio hefyd.

Mae'r rhybudd tywydd yn berthnasol i siroedd Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot, Caerdydd, Casnewydd, Caerffili, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Sir Benfro, Sir Ddinbych, Sir Gaerfyrddin, Sir Fynwy, Torfaen, Wrecsam, Ynys Môn. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.