Newyddion S4C

Arestio llanc wedi i ysgol arall gloi i lawr yn rhannol ar ôl ‘negeseuon bygythiol'

26/04/2024
Ebbw Fawr

Mae’r heddlu yn dweud eu bod nhw wedi arestio llanc wedi i ysgol arall gael ei chloi i lawr yn rhannol oherwydd “negeseuon bygythiol”.

Daw’r digwyddiad yng Nghymuned Ddysgu Ebwy Fawr ddydd Gwener ddeuddydd ar ôl digwyddiad a arweiniodd at gloi Ysgol Dyffryn Aman am rhai oriau ddydd Mercher wedi i dri unigolyn, disgybl a dau athro, gael eu hanafu mewn ymosodiad.

Mae merch 13 oed wedi ymddangos o flaen Llys Ynadon Llanelli fore Gwener wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio tri o bobl yn dilyn y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman.

Dywedodd Heddlu Gwent ddydd Gwener: “Cawsom alwad i adrodd bod Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr wedi’i rhoi dan glo yn rhannol tua 10.20am ar ôl honiad bod disgybl yn ei arddegau wedi derbyn negeseuon bygythiol.

"Mae ein swyddogion yn bresennol. Rydym wedi arestio bachgen yn ei arddegau ar amheuaeth o wneud bygythiadau.

"Ni ddigwyddodd yr arestiad ar dir yr ysgol ac nid oedd yn ardal Glyn Ebwy. Mae ein hymholiadau'n parhau."

Mewn datganiad diweddarach fe ddywedodd yr heddlu na wnaethon nhw ddod o hyd i "unrhyw arfau ymosodol" wrth arestio'r llanc.

"Rydym yn deall lefel y pryder gan rieni yn yr ardal heddiw, ond hoffwn ddiolch i’r cyhoedd a’r ysgol am ddilyn y protocol, aros yn ddigynnwrf a chyfleu unrhyw bryderon oedd ganddyn nhw i ni," meddai'r llefarydd.

“O ganlyniad roedd modd i ni weithredu’n gyflym, arestio, diogelu disgyblion a rhoi sicrwydd i’r gymuned.

“Nid yw’r ysgol bellach dan glo ac mae rhieni a gwarcheidwaid yn casglu eu plant.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.