Newyddion S4C

Ysgol Dyffryn Aman: Merch 13 oed wedi ymddangos o flaen llys

26/04/2024
Ysgol Dyffryn Aman

Mae merch 13 oed wedi ymddangos o flaen Llys Ynadon Llanelli fore Gwener wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio tri o bobl yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman.

Cafodd y ferch ei chadw mewn llety cadw ieuenctid yn dilyn y gwrandawiad.

Cafodd yr achos ei drosglwyddo i Lys y Goron Abertawe lle bydd y ferch yn ymddangos ar 24 Mai.

Cafodd dau athro a disgybl eu hanafu mewn digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman ddydd Mercher ac maen nhw bellach wedi eu rhyddhau o’r ysbyty.

Bu’n rhaid i’r ysgol gloi’r disgyblion yn eu dosbarthiadau am tua phedair awr ar ôl 11.20 ddydd Mercher, nes 15.20.

Cyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys y cyhuddiadau yn erbyn y ferch 13 oed ddydd Iau. 

Does dim modd ei henwi am resymau cyfreithiol.

Dywedodd Michael Cray, uwch erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru, fod y ferch yn wynebu tri chyhuddiad o geisio llofruddio a bod ag eitem lafnog yn ei meddiant ar safle ysgol.

“Mae achosion troseddol yn weithredol ac mae gan y diffynnydd yr hawl i dreial teg,” ychwanegodd.

“Mae’n hynod bwysig na ddylai fod unrhyw adrodd, sylwebaeth na rhannu gwybodaeth ar-lein a allai niweidio’r trafodion hyn mewn unrhyw ffordd.”

Image
Liz Hopkin a Fiona Elias yw'r athrawon a gafodd eu hanafu yn ôl adroddiadau
Liz Hopkin a Fiona Elias yw'r athrawon a gafodd eu hanafu yn ôl adroddiadau

‘Ar wahân’

Cafodd bachgen 15 oed ei arestio yn ddiweddarach ddydd Mercher ar ôl i'r heddlu dderbyn adroddiadau am negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cafodd gwarant ei gweithredu yng nghartref y bachgen yn ardal Cross Hands. Dywedodd yr heddlu bod dryll aer ‘BB’ bellach yn eu meddiant.

“Tra bod yr ymchwiliad hwn yn cael ei redeg ar wahân i’n hymchwiliadau i’r digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman ddydd Mercher, bydd ein swyddogion yn ceisio sefydlu hygrededd y bygythiadau, ac a oedd unrhyw gysylltiad rhwng y troseddau honedig,”meddai'r Uwch-arolygydd Ross Evans ddydd Iau.

'Cefnogi cymuned Ysgol Dyffryn Aman'

Cyhoeddodd Cyngor Sir Gâr brynhawn Gwener y byddai Ysgol Dyffryn Aman yn ail-agor ddydd Llun. 

Mewn datganiad, dywedodd y cyngor: "Hoffai Cyngor Sir Caerfyrddin ac Ysgol Dyffryn Aman roi sicrwydd i'r gymuned ysgol, cyn i'r ysgol ailagor, y bydd amrywiaeth eang o gymorth llesiant yn parhau i gael ei gynnig i ddisgyblion, athrawon a staff yr ysgol."

Ychwanegodd y datganiad y byddai Tîm Addysg a Seicoleg Plant penodedig o'r Cyngor ar gael i ddisgyblion a staff a fydd yn bresennol yn yr ysgol am y pythefnos nesaf. 

Bydd cwnsela hefyd yn cael ei gynnig i ddisgyblion. 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Darren Price: “Fel Cyngor Sir, rydym yn gwneud popeth y gallwn i gefnogi cymuned Ysgol Dyffryn Aman ac rydym wedi llunio cynllun cymorth llesiant i helpu'r disgyblion a'r staff."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.