Newyddion S4C

Covid-19: Bwrdd Iechyd yn atal ymweliadau ysbytai 'ar unwaith'

28/10/2021
x

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi atal ymweliadau i'w hysbytai "ar unwaith".

Daw hyn yn dilyn cynnydd mewn achosion o Covid-19 yn ysbytyai y De-Orllewin.

Mae'r cyfraddau Covid yn ardaloedd Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, sef y siroedd yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, yn fwy na 600 fesul 100,000 o bobl.

Yn ôl y Bwrdd, bydd ymweliadau yn cael eu caniatáu dan rai amgylchiadau, megis diwedd oes a gofal critigol.

Ni fydd y cyhoeddiad yn effeithio ar y trefniadau sydd eisoes yn bodoli ar gyfer gwasanaethau mamolaeth.

Yn ôl y Bwrdd, bydd disgwyl i unrhyw ymwelydd wneud prawf llif unffordd cyn dod i'r ysbyty.

Llun: Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.