Newyddion S4C

Cronfa £1m i gefnogi'r rhai sy'n galaru ei hangen 'yn fwy nag erioed'

28/10/2021
x

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi fframwaith newydd sy’n cefnogi pobl yng Nghymru sy’n galaru. 

Bwriad y fframwaith yw nodi pa gefnogaeth y dylai pobl ddisgwyl os ydyn nhw’n wynebu neu’n profi profedigaeth.

Mae’n cael ei gefnogi gan grant o £1m sydd ar gael i ddarparwyr gofal y trydydd sector.

Mae nifer y marwolaethau oherwydd Covid-19 wedi gostegu o’i gymharu â chyfnodau cynnar y pandemig, ond mae galar wedi dod yn rhan o fywydau nifer. 

Erbyn hyn, mae dros 6,000 o bobl wedi colli eu bywydau i coronafeirws, yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Image
Sion Jones
Mae'r Gymdeithas Alzheimer's yng Nghymru wedi croesawu'r fframwaith.

 Yn ôl Sion Jones o’r Gymdeithas Alzheimer’s yng Nghymru, mae angen y fframwaith yma “nawr fwy nag unrhyw bryd”. 

“Ni’n gwybod fod pobl â dementia wedi cael eu taro’n galetach yn ystod y pandemig. 

“Mae galar yn rhywbeth mae gymaint o ofalwyr wedi brofi yn ystod y pandemig, dyw nhw ddim wedi gallu gweld eu hanwyliaid, ddim wedi gallu dweud hwyl fawr. 

“Ni’n gwybod bod lot o ofalwyr wedi profi euogrwydd dros y pandemig – teimlo’n euog bo nhw ddim wedi gallu ffarwelio - felly yn sicr mae galar yn rhywbeth sydd ar ben yr agenda ar hyn o bryd.

“Felly mae 'na gyfle yma i ni weld cefnogaeth gywir yn cael ei gynnig.” 

Mae’r fframwaith wedi ei greu trwy gymorth elusennau a’r trydydd sector, fydd nawr yn helpu byrddau iechyd, awdurdodau lleol a sefydliadau sy’n cefnogi’r rhai sy’n mynd trwy brofedigaeth.

Bydd byrddau iechyd yn derbyn £420,000 yn ychwanegol fel rhan o’r fframwaith, er mwyn datblygu safonau profedigaeth newydd.

Yn ôl Idris Baker, Cadeirydd y Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Profedigaeth fod galar wedi “digwydd i fwy ohonom nag arfer” yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf.

“Mae llawer o bobl sy’n profi profedigaeth yn cael cefnogaeth dda, ond gwyddom nad yw pawb yn cael hynny,” meddai.

Wrth gyhoeddi’r fframwaith newydd, dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Lynne Neagle mai’r nod yw sicrhau “fod gan bawb fynediad at ofal mewn profedigaeth o ansawdd uchel”.

“Hoffwn ddiolch i’r holl elusennau, sefydliadau’r trydydd sector ac unigolion sydd wedi cyfrannu at y darn pwysig hwn o waith,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.