Galw ar deuluoedd i ‘gefnogi’ cleifion ysbytai yn eu cartrefi er mwyn rhyddhau gwlâu
Mae datganiad ar y cyd gan fwrdd iechyd a thri awdurdod lleol yn y gorllewin yn galw ar deuluoedd cleifion sydd mewn ysbytai ac yn aros am ddarpariaeth gofal i gefnogi eu hanwyliaid gartref.
Daeth y datganiad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Cyngor Sir Penfro, Caerfyrddin a Cheredigion fore dydd Iau.
Daw’r alwad oherwydd anawsterau i ryddhau cleifion sy’n ddigon iach yn feddygol o’r ysbyty oherwydd diffyg capasiti mewn cartrefi gofal yn y gymuned.
Fis Medi fe wnaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin ofyn i rai teuluoedd gefnogi anghenion gofal eu hanwyliaid "dros dro", gan fod prinder gweithwyr gofal ar gael yn y sir.
Yn ôl y Bwrdd Iechyd Hywel Dda mae’r sefyllfa ddiweddaraf wedi arwain at brinder sylweddol o wlâu, ac o ganlyniad, mae ambiwlansys yn aros am amser hir wrth ‘drws ffrynt’ adrannau damweiniau ac achosion brys, sy’n golygu ni all parafeddygon ymateb i alwadau 999 eraill yn y gymuned:
“Os yw’ch perthynas yn aros am becyn gofal ffurfiol, efallai y gallwch gynnig cefnogaeth a gofal ar drefniant tymor byr, dros dro neu efallai yr hoffech ystyried a ellid cefnogi’ch anwylyn mewn lleoliad gofal preswyl neu nyrsio dros dro.
“Os ydych chi’n teimlo bod hwn yn opsiwn y gallech chi ei ystyried, siaradwch â rheolwr y ward neu’ch gweithiwr cymdeithasol i archwilio ymhellach.”
Mae’r bwrdd iechyd, GIG Cymru a’r cynghorau wedi gofyn i deuluoedd helpu i leddfu’r baich ar yr ysbytai.
“Mae eich cefnogaeth nid yn unig yn helpu’ch anwylyd, ond mae’n gefnogaeth enfawr i'r GIG a’r gwasanaethau gofal cymdeithasol hefyd.
“Efallai y gallwch eu helpu i gyrraedd adref yn gyflymach os ydych chi a’ch teulu mewn sefyllfa i gefnogi nhw gartref."
Yn ôl y datganiad mae treulio cyn lleied o amser yn yr ysbyty yn “well i gleifion ac mae’n golygu y gellir rhyddhau gwelyau’r GIG i eraill ag anghenion gofal brys.”
Mae pecynnau iechyd a gofal amgen yn cael eu cynnig fel mesur tymor byr i’r ac mae mwy o ofalwyr a staff iechyd hefyd yn cael eu recriwtio i gefnogi pobl mewn angen.
Daw'r datganiad gan y bwrdd iechyd, y Gwasanaeth Ambiwlans a'r cynghorau yr un diwrnod a chofnodi'r ffigyrau perfformio gwaethaf erioed i adrannau achosion brys ysbytai Cymru a'r Gwasanaeth Ambiwlans.
Ac mae Prif Weithredwr GIG Cymru, Andrew Goodall, wedi rhybuddio y bydd Cymru yn wynebu "un o'r gaeafau caletaf erioed" oherwydd heriau pandemig Covid-19 a feirysau anadlol eraill.
Daw hyn yn dilyn rhybudd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach ym mis Hydref y dylai pobl "fanteisio" ar dderbyn brechlynnau Covid-19 yn ogystal â brechlyn y ffliw os ydyn nhw'n gymwys.