Newyddion S4C

Gofyn i deuluoedd yn Sir Gâr gefnogi anghenion gofal anwyliaid o achos prinder staff

02/09/2021
S4C

Mae cyngor yn y gorllewin wedi gofyn i rai teuluoedd gefnogi anghenion gofal eu hanwyliaid "dros dro", gan fod prinder gweithwyr gofal ar gael yn y sir.

O achos prinder gweithwyr yn y maes dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin y bydd newidiadau i drefn ac amserodd arferol ymweld gofalwyr hefyd, ac mae swyddogion wedi gofyn i bobl “fod yn hyblyg o ran eu ceisiadau am becynnau gofal.”

Dywedodd Jake Morgan, Cyfarwyddwr Cymunedau Cyngor Sir Caerfyrddin: “Ar hyn o bryd rydym yn llwyddo i ddarparu gofal i'r bobl fwyaf anghenus ond mae'r sefyllfa'n troi yn un anodd iawn.

"Mae hon yn broblem genedlaethol nad yw'n unigryw i Sir Gaerfyrddin, ond mae pobl yn haeddu cael gwybod pam y mae oedi yn y system a pham y gallem fod yn gofyn iddynt gydweithredu â newidiadau dros dro i sicrhau y gallwn ddefnyddio ein hadnoddau i ofalu am gynifer o bobl â phosibl.”

Trafod gyda defnyddwyr

Pwysleisiodd y cyngor na fydd unrhyw newidiadau'n cael eu cyflwyno cyn trafod â'r defnyddwyr gwasanaeth a'u perthnasau a chytuno ar y newidiadau. 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet y cyngor dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Rydym yn cael anawsterau mewn perthynas â'n gweithlu gofal cymdeithasol sy'n cael effaith ar bobl sydd angen ein cymorth.

“Rydym yn bod yn onest am y sefyllfa fel bod pobl yn ymwybodol o'r heriau ac yn gallu gwneud penderfyniadau am newidiadau dros dro efallai y byddwn yn gofyn iddynt gytuno iddynt fel rhan o becyn gofal presennol neu becyn gofal newydd.

“Rydym yn gwneud ein gorau glas i recriwtio pobl i dyfu ein gweithlu gofal cymdeithasol fel y gallwn ddarparu lefel y gofal rydym am ei roi i'n defnyddwyr gwasanaeth unwaith eto."

Ychwnaegodd y cynghorydd: “Gobeithiwn y bydd ein defnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd yn deall ac yn hyblyg o ran eu ceisiadau gofal fel y gallwn barhau i ateb y galw.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.