Newyddion S4C

Covid-19: Cymru i wynebu 'un o'r gaeafau caletaf erioed'

21/10/2021
NS4C

Mae Prif Weithredwr GIG Cymru, Andrew Goodall, wedi rhybuddio y bydd Cymru yn wynebu "un o'r gaeafau caletaf erioed" oherwydd heriau pandemig Covid-19 a feirysau anadlol eraill. 

Daw hyn yn dilyn rhybudd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach ym mis Hydref y dylai pobl "fanteisio" ar dderbyn brechlynnau Covid-19 yn ogystal â brechlyn y ffliw os ydyn nhw'n gymwys.

Gan gydnabod yr heriau ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ddydd Iau ei bod yn buddsoddi £42m ychwanegol o gyllid ar gyfer y maes gofal cymdeithasol. 

Yn ôl y llywodraeth, bydd peth o'r cyllid yn cael ei ddefnyddio i helpu i liniaru'r pwysau ar welyau ysbyty a lleihau nifer y cleifion bregus sydd yn cael eu derbyn yn ôl i'r ysbyty.

Mae Mr Goodall yn gobeithio y bydd Cynllun y Gaeaf yn helpu i sicrhau bod gofal mewn argyfwng yn gallu ymdopi, a lleihau unrhyw darfu ar ofal wedi'i gynllunio. 

Dywedodd: “Gwyddom mai’r gaeaf hwn fydd un o’r cyfnodau caletaf inni eu hwynebu erioed, wrth inni wynebu her ddeublyg y pandemig a firysau anadlol, ond bydd Cynllun y Gaeaf yn sicrhau bod gwasanaethau hanfodol ar gael bob amser.

“Mae angen i’n gwasanaethau fod yn hyblyg ac yn gallu ymateb i’r rheini sydd angen gofal yn yr ysbyty pan fydd eu cyflwr yn gwaethygu, yn ogystal â darparu cymorth mor agos â phosibl at y cartref i leihau’r angen iddynt orfod mynd i’r ysbyty i gael gofal.”

'Parhau i gynnig gwasanaethau hanfodol'

Fe fydd llawer o gyllid Cynllun y Gaeaf yn helpu gwasanaethau yn ystod y gaeaf hwn drwy flaenoriaethu gwahanol agweddau allweddol, gan gynnwys diogelu pobl rhag Covid-19 drwy’r rhaglen frechu, ymateb i effeithiau’r pandemig ar iechyd meddwl, ac chefnogi iechyd a llesiant staff sydd wedi gweithio’n ddiflino yn ystod y pandemig.

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: “Bydd ein Gwasanaeth Iechyd yn parhau i gynnig gwasanaethau hanfodol ac mae’n gwneud popeth posibl i sicrhau bod gofal wedi’i gynllunio’n parhau drwy gydol y cyfnod prysur hwn. 

“Rwyf hefyd yn cyhoeddi £42m o gyllid gofal cymdeithasol heddiw.

"Mae’r pandemig wedi rhoi’r system gofal cymdeithasol dan bwysau aruthrol ac rydym yn credu y bydd buddsoddi mewn galluogi pobl i gael y gofal cywir adref yn atal derbyniadau diangen i’r ysbyty, yn cyflymu rhyddhau cleifion o’r ysbyty ac yn rhyddhau gwelyau ysbyty angenrheidiol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.