Cip olwg ar benawdau’r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma olwg ar rai o brif straeon y gwasanaeth ar fore Mawrth, 28 Medi, o Gymru a thu hwnt.
Argyfwng tanwydd: Y fyddin wrth law i gynnig cymorth
Mae gweinidogion Llywodraeth y DU wedi galw am gymorth gan y fyddin er mwyn helpu gyda darparu petrol a disel o fewn y diwrnodau nesaf, yn ôl The Independent. Daw hyn wedi i brinder gyrwyr lorïau achosi rhai pobl i ruthro i brynu petrol ar draws y DU, gan effeithio ar fusnesau tanwydd. Mewn cyfarfod brys yn Whitehall nos Lun, fe gytunodd gweinidogion i baratoi tanceri milwrol os bydd trafferthion difrifol yn datblygu.
Ceisiadau cynllunio i orfod rhoi ystyriaeth i newid hinsawdd yn y dyfodol
Bydd unrhyw un sy’n dymuno gwneud cais cynllunio yng Nghymru yn gorfod defnyddio map sy’n nodi’r risg y gallai newid hinsawdd achosi i amodau i'r lleoliad yn y dyfodol. Mae’r map hefyd yn nodi perygl cyfredol o lifogydd ac erydu arfordirol. Bydd y newid yn dod i rym o 1 Rhagfyr a bydd yn cael ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau cynllunio lleol a datblygwyr.
Cyngor Gwynedd i benderfynu'n derfynol ar ddyfodol Ysgol Abersoch
Fe fydd Cyngor Gwynedd yn penderfynu ar ddyfodol Ysgol Abersoch ddydd Mawrth. Bydd yr ysgol yn cau ei drysau ar ddiwedd 2021 os bydd y cynnig i wneud hynny yn cael ei gymeradwyo'n derfynol gan gabinet y cyngor. Fe wnaeth y cabinet gefnogi argymhelliad i gyhoeddi rhybudd statudol i gau'r ysgol ym Mhen Llŷn ym mis Mehefin.
Angen 'dros £500m' i sicrhau diogelwch tomenni glo yng Nghymru
Mae angen dros hanner biliwn o bunnoedd i sicrhau fod tomenni glo Cymru yn ddiogel dros y 10 i 15 mlynedd nesaf yn ôl Llywodraeth Cymru. Mae’r llywodraeth wedi ategu galwadau a gafodd eu gwneud y llynedd, yn dilyn tirlithriad mawr yn y Rhondda. Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod rheolaeth o domeni glo wedi ei ddatganoli i Gymru, ac yn fater na fyddant yn "disgwyl darparu cyllid ychwanegol ar ei gyfer".
Gŵyl gerddorol: Lefel cyffuriau mewn afon 'yn ddigon i niweidio bywyd gwyllt'
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi darganfod fod lefelau o gyffuriau anghyfreithlon mewn afon sydd yn rhedeg ger safle gŵyl gerddorol fyd-enwog Glastonbury yn ddigon i niweidio bywyd gwyllt. Yn ystod yr ŵyl cafodd lefelau o'r cyffuriau MDMA a chocên eu profi yn y dŵr, ac roedd y canlyniadau mor uchel fel y gallai rhywogaethau prin o yslywenod fod wedi eu heffeithio. Galwodd yr ymchwilwyr ar y rhai oedd yn mynychu'r ŵyl i ddefnyddio toiledau swyddogol y safle yn y dyfodol.
Y canwr R Kelly'n euog o dwyll busnes a masnachu pobl ar gyfer rhyw
Mae'r cerddor R Kelly'n euog o naw cyhuddiad o dwyll busnes a masnachu pobl ar gyfer rhyw mewn achos llys yn ei erbyn yn Efrog Newydd. Roedd y canwr, sy'n 54 oed, wedi osgoi cyfrifoldeb cyfreithiol ers degawdau, yn ôl The Guardian. Yn dilyn gwrando ar chwe wythnos o dystiolaeth, fe ddechreuodd y rheithgor ddyfarnu ar y cyhyddiadau brynhawn dydd Gwener.