Ceisiadau cynllunio i orfod rhoi ystyriaeth i newid hinsawdd yn y dyfodol
Bydd unrhyw un sy’n dymuno gwneud cais cynllunio yng Nghymru yn gorfod defnyddio map sy’n nodi’r risg y gallai newid hinsawdd achosi i amodau i'r lleoliad yn y dyfodol.
Mae’r map hefyd yn nodi perygl cyfredol o lifogydd ac erydu arfordirol.
Bydd y newid yn dod i rym o 1 Rhagfyr a bydd yn cael ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau cynllunio lleol a datblygwyr.
Mae disgwyl i’r Deyrnas Unedig weld gaeafau gwlypach ac i lefelau’r môr godi oddeutu 10 – 30cm yn uwch erbyn 2050.
Mae’r map yn dod law yn llaw â Nodyn Cyngor Technegol 15, neu TAN 15, sy’n nodi na ddylid adeiladu cartrefi, safleoedd gwasanaethau brys, ysgolion ac ysbytai mewn ardaloedd sydd mewn risg uchel o weld llifogydd.
Os bydd cynllun yn cael ei gymeradwyo yn groes i argymhelliad swyddogion cynllunio unrhyw gyngor, bydd Llywodraeth Cymru yn cael gwybod ac yn gallu penderfynu ar y cais yn uniongyrchol.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: “Fel y mae'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru yn ei gydnabod, gall y system gynllunio helpu cymunedau i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd drwy leoli datblygiadau mewn ardaloedd sydd i ffwrdd o berygl llifogydd.
“Gall gwell gwybodaeth am y lleoedd a fydd mewn perygl yn y dyfodol helpu i gadw pobl yn ddiogel, drwy atal y difrod a'r tarfu ar gartrefi, gweithleoedd a seilwaith y gall llifogydd eu hachosi.”
Bydd y map, sy’n cael ei gyhoeddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru, yn cael ei ddiweddaru ym mis Mai a Thachwedd pob blwyddyn.
Mae’r cyngor a’r map llifogydd wedi’u rhyddhau i’r cyhoedd, cyn iddynt ddod i rym ddechrau Rhagfyr.
O’r dyddiad hwnnw ymlaen, bydd holl geisiadau cynllunio, yn ogystal â rhai blaenorol sydd heb gyrraedd y cam archwilio ffurfiol, yn cael eu hasesu yn erbyn y cyngor a'r map newydd medd y llywodraeth.
Llun: Keith Salvesen