Newyddion S4C

Gŵyl gerddorol: Lefel cyffuriau mewn afon 'yn ddigon i niweidio bywyd gwyllt'

Sky News 28/09/2021
CC

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi darganfod fod lefelau o gyffuriau anghyfreithlon mewn afon sydd yn rhedeg ger safle gŵyl gerddorol fyd-enwog Glastonbury yn ddigon i niweidio bywyd gwyllt.

Yn ystod yr ŵyl cafodd lefelau o'r cyffuriau MDMA a chocên eu profi yn y dŵr, ac roedd y canlyniadau mor uchel fel y gallai rhywogaethau prin o yslywenod fod wedi eu heffeithio.

Galwodd yr ymchwilwyr ar y rhai oedd yn mynychu'r ŵyl i ddefnyddio toiledau swyddogol y safle yn y dyfodol.

Cafodd samplau o ddŵr o afon Whitelake eu profi uwchlaw ac islaw safle'r ŵyl medd Sky News.

Dywedodd trefnwyr yr ŵyl eu bod yn annog ymwelwyr i ddefnyddio'r toiledau cyhoeddus, a'u bod hefyd yn awyddus i weld canlyniadau llawn y gwaith ymchwil.

Darllenwch y stori'n llawn yma

Llun: reds on tour

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.