Newyddion S4C

Angen 'dros £500m' i sicrhau diogelwch tomenni glo yng Nghymru

28/09/2021

Angen 'dros £500m' i sicrhau diogelwch tomenni glo yng Nghymru

Mae angen dros hanner biliwn o bunnoedd i sicrhau fod tomenni glo Cymru yn ddiogel dros y 10 i 15 mlynedd nesaf yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae’r llywodraeth wedi ategu galwadau a gafodd eu gwneud y llynedd, yn dilyn tirlithriad mawr yn y Rhondda.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod rheolaeth o domeni glo wedi ei ddatganoli i Gymru, ac yn fater na fyddant yn "disgwyl darparu cyllid ychwanegol ar ei gyfer".

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae dros 40% o domenni glo Cymru yn rhai risg uchel.

Un ardal a welodd dirlithriad o domen glo yn dilyn tywydd garw oedd Tomen Pendyrus ger y Rhondda.

Llithrodd 60,000 o dunelli o wastraff glo i lawr ochr y mynydd y wedi glaw trwm Storm Dennis ym mis Chwefror 2020.

Yn ôl Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:  "Mae’r problemau a etifeddwyd yn sgil cloddio am lo yn effeithio'n anghymesur ar Gymru ac mae effeithiau'r hinsawdd yn golygu bod tomennydd glo yn peri mwy o risg i’n cymunedau.

“Gan fod y mater hwn yn un sy’n dyddio o’r cyfnod cyn datganoli, mae angen i Lywodraeth y DU rannu cyfrifoldeb ac atal tirlithriad arall.”

Yn ôl hanesydd sy’n arbenigo ym meysydd glo Cymru, Dr Ben Curtis, mae angen "delio" gyda'r sefyllfa.

Yn dilyn tirlithriad Pendyrus, fe ymwelodd Dr Curtis â’r ardal.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Fel 'da ni wedi gweld gyda sefyllfa tirlithriad Pendyrus, mae'r sefyllfa ddim yn mynd i ffwrdd. Mae lot o'r tomenydd dal i fod yna. Mae angen am y cyllid, am awdurdod gyda pwerau addas i ddelio gyda'r sefyllfa nawr ac yn y dyfodol.

Yn gynharach eleni, roedd galwadau gan Gomisiwn y Gyfraith am un corff newydd i ofalu am ddiogelwch tomenni gwastraff glo yn ne Cymru.

Daeth hyn ar ôl i’r Comisiwn ddweud nad oedd y gyfraith sydd yn ymwneud â’r hen domenni glo sydd yn Rhondda Cynon Taf, fel yn ardal Pendyrus, yn addas.

Dywedodd aelodau o’r gymuned oedd yn byw yn agos i’r safle eu bod nhw’n poeni am beryglon hen domenni glo oherwydd eu bod nhw wedi gweld plant yn chwarae yno’n ddiweddar.

‘Cyfrifioldeb cyfreithiol a moesol’

Bydd yr Adolygiad o Wariant yn pennu faint o arian fydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer y tair blynedd nesaf hyd at 2024-25.

Ychwanegodd Rebecca Evans: "Mae sicrhau bod y tomennydd yn ddiogel cyn iddyn nhw lithro yn fwy costeffeithiol o lawer nag aros i un yn unig o'r tomennydd risg uchel lithro. Mae cyfrifoldeb cyfreithiol a moesol ar Lywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r mater hwn ac i ariannu'r costau hirdymor hyn.

"Mae cyfle inni gydweithio yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod i fynd i'r afael â'r argyfwng sy’n ein hwynebu o ran yr hinsawdd ac o ran byd natur, ac mae’r Adolygiad o Wariant eleni yn gyfle i ganfod y tir cyffredin hwnnw ac i adael gwaddol cadarnhaol, tecach a pharhaol i gyn-ardaloedd glofaol yng Nghymru."

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ar Twitter: "Mae problemau'r diwydiant glo wedi effeithio’n anghymesur ar Gymru.

"Gall glaw trymach ansefydlogi ein tomennydd glo. Mae gan Llywodraeth y DU ddyletswydd i weithio gyda ni i amddiffyn ein cymunedau.

"Mae gennym gynllun, ond mae angen arian hir dymor i'w gwneud yn ddiogel."

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Ym mis Rhagfyr 2020, er mwyn helpu gydag effaith annisgwyl Storm Dennis, gwnaethom ddarparu £31m o gyllid ychwanegol i lywodraeth Cymru, ac roedd £9m ohono i atgyweirio tomenni glo bregus. Yn y pen draw, fodd bynnag, mae rheoli tomenni glo yng Nghymru yn fater datganoledig ac felly nid yw'n un y byddai Llywodraeth y DU yn disgwyl darparu cyllid ychwanegol ar ei gyfer.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi’i hariannu’n fwy na digonol i reoli costau cyfrifoldebau datganoledig. Mae eu setliad adolygiad gwariant 2021-22 yn darparu tua £123 y pen am bob £100 o gyllid cyfatebol yn Lloegr. Mae hyn oddeutu £1bn yn fwy na’r lefel gytûn o gyllid teg i Gymru o’i gymharu â Lloegr fel y nodir yn y fframwaith cyllidol. ”

Llun: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.