Galw ar un corff i warchod diogelwch hen domenni glo

Galw ar un corff i warchod diogelwch hen domenni glo

Newyddion S4C

Mae Comisiwn y Gyfraith wedi galw am un corff newydd i ofalu am ddiogelwch tomenni gwastraff glo yn ne Cymru.

Daw hyn ar ôl i’r Comisiwn ddweud nad oedd y gyfraith sydd yn ymwneud â’r hen domenni glo sydd yn Rhondda Cynon Taf yn addas.

Fe ddigwyddodd tirlithriad yn ardal Pendyrys y llynedd.

Mae pobl yn ardal sydd yn agos i’r safle, Pont-y-gwaith, yn dweud eu bod nhw’n poeni am beryglon hen domenni glo oherwydd eu bod nhw wedi gweld plant yn chwarae yno’n ddiweddar.

Image
Philip Thomas glo
Philip Thomas, ymgyrchydd lleol

Un o’r rhain yw Philip Thomas sydd yn byw lawr y cwm ger tomenni Ynyshir. 

Mae Mr Thomas wedi bod yn ymgyrchu am newidiadau i warchod y gymuned leol.

“Mae’r tomenni yma yn Ynyshir uwchben fy nghartref yn beryg uchel", dywedodd. 

“Felly, yr un categori â’r un Tylorstown, ac yn un o 64 yn Rhondda Cynon Taf, a 294 ar draws de Cymru. 

“Mae’r bobol sydd yn byw yn lleol wedi cael eu gosod mewn gormod o beryg a dwi ddim yn meddwl taw Llywodraeth na Rhondda yn rhoi digon o ymdrech i ddatrys y broblem".

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dweud eu bod nhw wedi bod yn gweithredu ar y tomenni glo a bod trefniadau arolygu manylach wedi cael eu cyflwyno mewn partneriaeth ag awdurdod glo.

Image
Tirlithriad glo
Tirlithriad ym Mhendyrys y llynedd.  [Llun: Mariana Phelps]

Ond mae Comisiwn y Gyfraith wedi dweud mai’r gyfraith ei hun yw’r broblem ac nid oes cysondeb wrth asesu diogelwch. 

Mae’n argymell sefydlu corff fyddai’n cymryd cofnod o hen domenni glo a fyddai â’r grym i nodi tomenni risg uchel a dynodi camau diogelwch. 

“Y broblem yw falle nid yw’r tipiau yma wedi cael eu monitro’n ddigon agos,” dywedodd Rhian Meara, sydd yn ddaearegwr.

“Ac felly, dydy ni ddim yn deall pa mor wael galle fe fod os mae tip yn digwydd. Felly, y cam cyntaf yw deall beth yw’r sefyllfa, faint o dipiau sydd ar gael ac angen eu monitro, ac i ba lefel maen nhw angen eu monitro er mwyn deall yn union beth yw’r probleme’.”

Ar hyn o bryd, nid oes gan gynghorau lleol y pwerau i weithredu oni bai fod perygl gwirioneddol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod argymhellion Comisiwn y Gyfraith yn gam pwysig ymlaen. 

Mae disgwyl adroddiad terfynol ddechrau flwyddyn nesaf.

Prif lun: Mariana Phelps