Cannoedd o ffermwyr Cymru yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn cwmni ynni gwyrdd

Cannoedd o ffermwyr Cymru yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn cwmni ynni gwyrdd

Mae cannoedd o ffermwyr a thirfeddianwyr yng Nghymru wedi cymryd camau cyfreithiol yn yr Uchel Lys yn erbyn cwmni ynni gwyrdd sy’n bwriadu codi peilonau ar draws y wlad. 

Mae mwy na 300 o bobl wedi cyhuddo Green GEN Cymru o gamddefnyddio pŵer yn "anghyfreithlon" i "orfodi" mynediad i dir preifat.

Yn ôl dogfennau’r llys, mae asiantau sy’n gweithredu ar ran y cwmni wedi’u cyhuddo o ymddwyn mewn modd "gorfodol" a diofal a hynny "heb ystyried amddiffyniadau amgylcheddol na lles cymunedol".

Mae'r ffermwyr a'r tirfeddianwyr yn honni bod yr asiantau'n ceisio gorfodi eu ffordd ar dir i gynnal arolygon ar gyfer tri llwybr peilon newydd.

Byddai'r cynllun yn ymestyn dros fwy na 200km trwy siroedd Powys, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, gan arwain at Fynyddoedd Cambria.

Mae'r hawliad cyfreithiol, a gyflwynwyd gan y cwmni cyfreithiol New South Law, yn dadlau bod y cwmni ynni yn gweithredu y tu hwnt i'w bwerau fel awdurdod caffael, sef corff sydd â phŵer cyfreithiol i gael tir ar gyfer prosiectau cyhoeddus.

Mae'r hawliad hefyd yn honni bod yr asiantau'n croesi ffiniau ffermydd mewn dillad budr, gan beryglu lledaeniad clefydau da byw.

'Teimlo fel goresgyniad'

Mae Natalie Barstow, yr hawlydd a sylfaenydd Cyfiawnder i Gymru, yn galw am degwch a phrosesau cyfreithlon wrth gynllunio a chyflawni prosiectau ynni.

"Nid oes gennym unrhyw ddewis ond cymryd camau cyfreithiol drwy'r Uchel Lys o ganlyniad i'r ymgyrch fwlio hon gan Green GEN Cymru," meddai.

"Rydym wedi cael cannoedd o adroddiadau gan bobl sy'n teimlo fel pe bai eu cartrefi'n cael eu goresgyn."

Fe aeth ymlaen i ddweud bod pobl yn teimlo fel nad oes ganddyn nhw rym, ac yn ofni cael eu harestio neu eu herlyn.

"Er ein bod yn cefnogi ynni gwyrdd, ni ddylid caniatáu i ymddygiad cwbl afresymol Green GEN Cymru barhau," ychwanegodd.

Mae'r ffermwyr a'r tirfeddianwyr yn honni bod ganddyn nhw nifer o luniau fideo sy'n dal gweithredoedd yr asiantau, gan gynnwys cerdded trwy nant warchodedig – sy'n gartref i gimychiaid a dyfrgwn brodorol – mewn dillad budr.

Dywedodd Mary Smith, cyfreithiwr yn New South Law: "Mae'r achos hwn yn codi cwestiynau sylfaenol am atebolrwydd yn y broses o drawsnewid ynni adnewyddadwy yn y DU a sut mae ymddygiad y diwydiant yn bygwth yr amgylchedd a hawliau dynol cymunedau."

Ychwanegodd: "Mae cael statws awdurdod caffael yn cario cyfrifoldeb i ymddwyn yn gyfreithlon ac i drin y cyhoedd yn rhesymol ac yn deg.

"Nid yw'n rhoi rhwydd hynt i gwmnïau ddefnyddio tactegau gormesol ac anghyfreithlon wrth hyrwyddo eu hamcanion masnachol."

Dywedodd llefarydd ar ran Green GEN Cymru: "Bydd Green GEN Cymru yn ymateb i’r cais hwn fel y gofynnwyd gan y llys.

"Rydym yn adolygu’r hawliad yn ofalus gyda’n cynghorwyr cyfreithiol a byddwn yn ymateb drwy’r sianeli cyfreithiol priodol."

Llun: Fe wnaeth camera bywyd gwyllt ddal pobl yn cerdded trwy nant warchodedig.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.