Cyngor Gwynedd i benderfynu'n derfynol ar ddyfodol Ysgol Abersoch
Fe fydd Cyngor Gwynedd yn penderfynu ar ddyfodol Ysgol Abersoch ddydd Mawrth.
Bydd yr ysgol yn cau ei drysau ar ddiwedd 2021 os bydd y cynnig i wneud hynny yn cael ei gymeradwyo'n derfynol gan gabinet y cyngor.
Fe wnaeth y cabinet gefnogi argymhelliad i gyhoeddi rhybudd statudol i gau'r ysgol ym Mhen Llŷn ym mis Mehefin.
Ar hyn o bryd, mae'r Ysgol yn darparu addysg i blant hyd at wyth oed, gyda disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Sarn Bach ar ddechrau’r mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn wyth oed.
Ond, os bydd aelodau'r cabinet yn cymeradwyo argymhellion swyddogion ddydd Mawrth, bydd saith disgybl llawn amser yr ysgol a’r ddau ddisgybl derbyn yn cael trafnidiaeth am ddim i Ysgol Sarn Bach o fis Ionawr.
Yn un o bentrefi mwyaf poblogaidd Gwynedd ar gyfer ail gartrefi, mae pryderon yn lleol am yr effaith y gallai cau’r ysgol gael ar y gymuned a’r iaith Gymraeg yn yr ardal.
Mewn ymgais funud olaf i achub yr ysgol ym Mhen Llŷn, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y cyngor i beidio a “chefnu ar y gymuned leol”.
Dywedodd Ffred Ffransis mewn llythyr yn gynharach wythnos diwethaf y byddai cadw’r ysgol ar agor yn “datgan fod yr iaith Gymraeg yn perthyn i bawb yn Abersoch yn y dyfodol, beth bynnag yw eu cefndir.”
Fe fydd y cabinet yn cwrdd yn ddiweddarach.