Argyfwng tanwydd: Y fyddin wrth law i gynnig cymorth
Mae gweinidogion Llywodraeth y DU wedi galw am gymorth gan y fyddin er mwyn helpu gyda darparu petrol a disel o fewn y diwrnodau nesaf, yn ôl The Independent.
Daw hyn wedi i brinder gyrwyr lorïau achosi rhai pobl i ruthro i brynu petrol ar draws y DU, gan effeithio ar fusnesau tanwydd.
Mewn cyfarfod brys yn Whitehall nos Lun, fe gytunodd gweinidogion i baratoi tanceri milwrol os bydd trafferthion difrifol yn datblygu.
Yn ôl ffynonellau sydd wedi siarad gyda The Independent, byddai 75 o yrwyr tanceri milwrol ar gael a 75 wrth gefn, ynghŷd â 150 o staff cynorthwyol.
Yn y cyfamser fodd bynnag, mae'r llywodraeth yn galw ar bobl i ymdawelu a pheidio â rhuthro i brynu petrol gan nad oes prinder tanwydd yn y DU.
Darllenwch y stori'n llawn yma.